HUNO MEWN HENAINT TEG.
Dydd lau, yn dra di-symwth, bu farw Mrs. Ann Roberts, Ceiri Temperance, a hi yn 69 mlwydd oed. Yr oedd Mrs. Roberts yn un o'r rhai addfwyn y ddaear, yn barod ei chymwynas ac yn fawr ei pharch gan bawb.Bu yn cadw Tŷ Capel Llwyndyrus am amryw flynyddau, ac felly yn dra adnabyddus i weinidogion y Methodistiaid Calfinaidd. Bydd llu yn teimlo colled ar ôl un mor wasanaethgar i gymdeithas.
Cymerodd ei chladdedigaeth (anghyhoedd) le ddydd Sadwrn yn mynwent Denio. Gwasanaethwyd gan y Parch. T. Williams, Elms.
Gedy ar ôl fab a pherthynasau lluosog i alaru am un mor hawddgar a da, a chydymdeimlwn a hwy yn eu trallod.