MARWOLAETH.

Boreu Iau diweddaf, ar ôl byr gystudd, bu farw Mrs Ann Hughes, priod Mr John Hughes, Penrhydlyniog, yn 48 mlwydd oed.

Magodd dyald o blant-sef wyth ohonynt a bu yn hynod ofalus fel mam iddynt. Y mae tri ohonynt yn y fyddin, sef John yn yr Aifft, Sam yn Ffrainc, a Robert yn Nghroesoswallt.

Cymerodd y gladdedigaeth le, yr hon oedd gyhoeddus, ddydd Llun yn mynwent Denio. Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parch. Thomas Williams, The Elms, ac y fynwent gan y Parch. J. Edwards, B A., Ficer.

Cydymdeimlwn yn ddwfn a'i phriod a'r plant yn eu profedigaeth chwerw o golli un mor dyner.

Yr Udgorn 15/11/1916