YNADLYS PWLLHELI.

Cynhaliwyd ddydd Mercher. Ar y fainc Mri. J. G. Jones, W. Thomas, Dr. S. W. Griffiths, Dr. Gwenogfryn Evans. Dr. R. Jones Evans, a W. W. Griffiths.

Cyhuddai Mr. Charles L. Roberts (Arolygydd Trefol), William Wright, Round Tai. Penrhydleiniog, Pwllheli, o arfer iaith anweddaidd yn ei dŷ.

Dywedodd Mr. Cradoc Davies, ar ran yr erlynydd, fod y cyhuddedig wedi ei ryddhau o'r fyddin ar yr 22ain o'r mis o'r blaen ac ar y 25ain clywodd yr Heddwas Hughes ef yn cweryla a'i wraig yn y tŷ ac yn arfer iaith aflan iawn.

Cadarnhawyd hyn gan yr Heddwas Hughes, a dirwywyd ef i 11s.

Yr Herald Gymraeg 25/05/1915