YNADLYS PWLLHELI.

Cynhaliwyd ddydd Mercher. Ar y fainc Mri. J. G. Jones (yn y gadair), Maurice Jones, W. Anthony, a W. W. Griffiths.

HELYNTION Y DDIOD.

Cyhuddwyd Ellen Roberts a John Roberts, gŵr a gwraig, o Penrhydleiniog, o fod yn feddw ac afreolus, ar y pumed o'r mis hwn.

Dywedodd yr heddwas fod y ddau wedi myned ar eu spri. Yr oeddynt yn cael diod mewn rhyw dŷ yn Mhenrhydleiniog.

Rhwymwyd hwy drosodd i iawn ymddwyn am haner blwyddyn a thalu 5s yr un o gostau.

Herald Gymraeg 18/08/1914