MAM A'I PHLANT.

Cyhuddwyd Kate Ekland, Pwllheli, gan swyddog tros y Gymdeithas er Atal Creulondeb at Blant, o fod wedi ymddwyn yn greulon at ei phedwar plentyn.

Cyhuddwyd hi o gyffelyb drosedd yn Hydref diweddaf, ond gohiriwyd yr achos droion i roi cyfle iddi wella. Gan fod y ddynes wedi diwygio galwyd y wys yn ol ers tua mis, ond aeth y ddynes i yfed drachefn, ac o ganlyniad esgeulusai ei phlant.

Yr oedd y tŷ yn hollol aflan, a'r plant yn fudron, ond yr oeddynt yn cael digon o fwyd. Cai y ddynes arian yn gyson oddiwrth ei gŵr, yr hwn oedd ar y môr, ac yr oedd yn wraig garedig ond yr oedd yn amhosibl ei chadw oddiwrth y ddiod - dyna oedd yr achos o'r drwg i gyd. Nid oedd yn foddlon myned i sefydliad i geisio diwygio.

Dywedodd y Fainc nad oedd dim i wneud ond anfon y ddynes i garchar am ddau fis heb lafur caled. Cymerid y plant i'r tloty yn y cyfamser.

Yr Udgorn 19/03/1913


TLOTY YN LLE CARTREF.

Bore Iau dygwyd Mrs. Kate Ekland o flaen yr ynadon Dr. S. W. Griffith, yr Henadur W. Anthony a Dr. R. Jones Evans, ar y cyhuddiad o esgeuluso ei phlant.

Tystiai y Rhingyll Lloyd iddo ymweled a'i thy a'i gael mewn cyflwr aflan iawn. Yr oedd y gwelyau yn wlyb ac yn arogli yn ddrwg. Yr oedd dillad yr uchod hefyd yn arogli yn ddrwg. Yr oedd dillad y plant yn aflan. Cadarnheid yr uchod gan yr Heddwas Roberts.

Tystiai y famaeth Jones o'r Tloty i'r pedwar plentyn ddod i'r tloty a'u bod mewn cyflwr difrifol.

Archodd y fainc fod y plant i gael eu cadw yn y tloty am fis ac fod achos y fam yn cael ei ohirio er gweled pa fodd yr ymddygai yn y cyfamser.

Herald Gymraeg 03/03/1914


MEDDWI.

Kate Eklund, Penrhydlyniog, ddaeth gerbron eto ar y cyhuddiad o fod wedi esgeuluso ei phedwar plentyn. Gwrandawyd ar fanylion yr achos fis yn ôl.

Mr. Hugh Prichard a eiriolodd drosti trwy ddweyd ei bod hi wedi cadw yn glir oddiwrth y ddiod yn ystod y mis a'i bod yn llwyr ymwrthodydd o hyn allan.

Pan dderbyniai hi arian oddiwrth ei gwr, yr hwn oedd yn ddyn da ac yn forwr, yr nwch am y ddiod a gwariai yr arian am winoedd poethion. O hyn allan telid yr arian i berthynas iddi, a chai y plant ofalaeth briodol.

Erfyniodd Mr. Prichard ei gollwng allan am dymor eto dan brawf. Cydsyniwyd â hyny.

Genedl Gymreig 30/03/1914


Ynadlys Pwllheli.

Cynhaliwyd dydd Mercher, gerbron Cyrnol Lloyd Evans. (Cadeirydd), Mri Maurice Jones, J. G. Jones, W. Anthony, G. Hughes Roberts, W. W. Griffiths, Dr Gwenogfryn Evans, Dr R. Jones Evans.

Daeth achos gohiriedig Mrs Kate Ekland, Penrhydleiniog ymlaen. Cyhuddid hi o esgeuluso ei phlant. Dywedai Mr Hugh Pritchard ar ei rhan fod ei gwr yn llongwr ac yn rhoddi 12s 6c yr wythnos iddi at fyw. Gan na allai ymgadw rhag gwario yr arian ar ddiod yr oedd wedi ymrwymo i roddi yr arian i gael eu rheoli gan eraill er ei diogelwch.

Pasiwyd i ohrio yr achos am dri mis er gweled pa fodd yr ymddygai ac iddi gael y plant i'w gofal yn y cyfamser.

Herald Gymraeg 31/03/1914


YNADLYS PWLLHELI.

Cynhaliwyd dydd Mercher. Ar y fainc Mri J. G. Jones, Maurice Jones, G. Hughes Roberts, W. Anthony, Dr. Gwenogfryn Evans, W. W. Griffiths.

MAM WEDI DIWYGIO.

Dygwyd yn mlaen yr achos gohiriedig yn erbyn Mrs Kate Eklund, Penrhydliniog, yr hon a gyhuddid o arfer creulondeb at ei phlant ac a ohiriwyd dri mis yn ôl i edrych pa fodd yr ymddygai yn y cyfamser.

Dywedodd Mr Hugh Pritchard ar ei rhan ei bod wedi llwyr ymatal yn y cyfamser oddiwrth ddiodyd meddwol.

Cadarnhawyd hyn gan yr Arolygydd Owen yr hwn a ddywedodd fod Mrs. Hugh Prichard wedi cymeryd dyddordeb mawr ynddi ac wedi ei chynorthwyo i sefyll ar ei thraed.

Taflwyd yr achos allan ar daliad v costau.

Herald Gymraeg 23/06/1914


YNADLYS PWLLHELI.

DYDD MERCHER. Gerbron Mr. J. G, Jones, ac Ynadon eraill.

ACHOS KATE EKLUND.

Dri mis yn ôl yr oedd Kate Eklund, Penrhydlyniog, gerbron y Llys ar y cyhuddiad o achosi creulondeb i'w phlant drwy eu hesgeuluso yn herwydd ei harferion meddw.

Gollyngwyd hi allan ar brawf am dri mis, ac yr oedd y tymhor hwnw i fyny yn awr. Daeth gerbron y Llys, a dywedodd Mr. Hugh Prichard drosti ei bod hi wedi ymddwyn yn briodol yn ystod ei phrawf.

Cadarnhawyd hyn gan yr Arolygydd Owen.

Gollyngwyd hi yn rhydd ar dalu 5s. o gostau.

Y Genedl Gymreig 23/06/1914