LLYTHYR O GERMANI.

Yr wythnos ddiweddaf cafodd Mr. a Mrs. Richard Jones, Penrhydleiniog lythyr oddiwrth eu mab, Richard, o Hamburg, Germani.

Aeth ef ar ei fordaith gyntaf gyda'r llong "George Casson," o Borthmadog yn niwedd Gorphenaf, a chymerwyd hwy yn garcharorion rhyfel yn Germani.

Y mae ei frawd hynaf gydag ef yno, a dywed eu bod yn cael pob cysuron yno. Bu eu rhieni am rai wythnosau heb wybod pa le yr oeddynt.

Enfyn ei gofion cynhesaf at Mr. Jones Griffiths, yr ysgolfeistr, a Mr. Cornelius Roberts, Arolygwr yr Ysgol Sul yn Sand Street, lle y dygwyd ef i fyny, a diwedda trwy ddweyd nad oes neb tebyg i'w fam a'i dad i'w cael ar dir nac ar for.

Yr Herald Gymraeg 27/10/1914


Llythyr o Germani.

Derbyniodd Mr a Mrs Richard Jones, Fron Helyg, Penrhydlyniog, y llythyr a ganlyn oddiwrth eu mab Richard, yr hwn sy'n garchar yn Germani.

Dear Mother and Father,

Just a line in answer to your postcard. Glad to understand that you are all in the best of health as I am at present. I feel very grateful to all kind friends at Pwllheli for remembering us in this carchar.

I am very glad to understand that Mr. G. Cornelius Roberts is mayor of this town an Mrs. Roberts themayoress. Give my best regards to them. Mr. Roberts has been very good to u and I shall never forget this. Well, dear mother, I received the Testament and bara brith all right. Tell Miss Jones, Baker, I received them, and that I am very thankful for them. I read a chapter every night. Mr. Menyn is very prin, and Mr. Everything just the same. I never see Mr. Milk here. But don't worry about us, I am sure to be 'yn ddigon cry at rhein', and to help father with his business when I come home.

How is Mr. Rhyfel getting on now ? I must draw to a close now. Tell everyone I am very thankful to them for all their kindness. and to Mr. Josiah Williams and Mr. Willie Lloyd for their parcels. Give my best regards to Dr. Evans and Mrs. Evans, Dr. Wynne Griffith and Mrs. Griffith, Mr. William Jones, watchmaker, and all at Sand Street. How is Uncle Wil Penrallt, and auntie.

Hope to see you all soon. Remember Pwdin Dolig. I would like to see Mrs. Gwydd. Mr. Davies sends his best regards.

Kindest regards to you all, from your loving son.
DICK.

Yr Udgorn 22/12/1915


TALU'R PWYTH YN ÔL.

I'r Rhai Fu'n Ceisio ei Newynu.

Derbyniodd Mr a Mrs Richard Jones, Penrhydlyniog, Pwllheli, lythyr oddiwrth eu mab. Private Richard Jones, o Newfoundland. Bu Richard yn garcharor yn yr Almaen am flwyddyn ac wyth mis. Digwyddodd fod yn morio yn un o borthladdoedd y wlad pan y torodd y rhyfel ond gan nad oedd mewn oedran i ymladd cafodd ei ryddhau beth amser yn ôl.

Dywed yn y llythyr ei fod wedi gadael ei long ac wedi ymuno a'r Newfoundlanders. Gofyna iddynt faddeu iddo am ymuno. Sicrha hwy y bydd yn fachgen dewr, ac nad oes dim o'r llwfrddyn yn agos ato, ac ychwanega : "Yr wyf fi yn gofyn heddyw - Pwy ddaw i ryfel gyda mi yn erbyn y bobl fu'n ceisio fy newynu ac yn fy ngwneyd yn garcharor a finnau heb wneyd dim drwg? Y peth diweddaf a ddywedais wrthynt pan yn dod o Germani ydoedd y byddwn yn sicr o ymladd yn eu herbyn am eu bod wedi ymddwyn mor frwnt a chreulawn wrthyf."

Erfyn ei gofion at swyddogion Sand Street a'r ysgolfeistr.

Yr Herald Gymraeg 16/01/1917