HUNO YN GYNAR.
Ddydd Gwener, wedi cystudd maith a blin, bu farw Mr John Christmas Hughes, mab Mrs a'r diweddar Mr Evan Hughes, Talafon, yn 21 mlwydd oed.Dioddefodd ei waeledd hir yn dawel a siriol. Yr oedd yn fachgen hynod o hoffus, ac o natur gymdeithasol, a bydd chwith gan gylch eang o gyfeillion ei golli. Yr oedd yn aelod selog yn Tarsis, ac anfonwyd ganddynt flodeu-glwm hardd i'w rhoi ar fan fechan ei fedd. Cymerodd y gladdedigaeth le heddyw (dydd Mawrth) yn mynwent Denio.
Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parch. Thomas Williams, The Elms, ac yn y fynwent gan y Parch. J. Edwards, B.A., Ficer.
Cydymdeimlwn a'i fam weddw, ei chwiorydd, ac a'i ddau frawd Mri Evan a Hughie Hughes sy'n gwasanaethu eu gwlad, y naill yn yr Aifft a'r llall yn Affrica, yn eu profedigaeth.