MARW LLANC HYSBYS.
Nos Lun, ar ôl gwaeledd byr, bu farw Mr. Robert Hughes, nai y dweddar Mr. Robert Hughes, crydd, a Mrs. Catherine Hughes, Offa Place, Rhydlyniog, ac efe yn 27 mlwydd oed.Llanc gwreiddol a hynod ei ffordd ydoedd Bob, ac yn adnabyddus drwy y dref fel un parod ei gymwynas i bawb ddeuai ar ei ofyn. Yr oedd yn gefn rhagorol i'w nain ddiamddiffyn yn ei hunigedd.
Claddwyd ef ddydd lau yn mynwent Denio. Gwasanaethwyd gan y Parchn. Thomas Williams, Elms, a J. Edwards, B.A Ficer.
Cydymdeimlwn a'r teulu oll yn eu trallod.