YNADLYS PWLLHELI.
Cynhaliwyd dydd Mercher, Mri. J. G. Jones. W. Anthony, Maurice Jones, Dr. Gwencgfryn Evans, Dr. Jones Evans, Jr. Hughes Parry.HELA CWNINGOD - Y CLERC A'R CYFREITHIWR.
Cyhuddodd yr Heddwas Thomas, David Hughes, Penrhydleiniog, o fod allan yn chwilio am helwriaeth tua thri o'r gloch foreu Sadwrn a William Owen o'r un lle, o'i gynorthwyo. Tystiodd yr Heddwas Thomas iddo weled y diffynyddion yn dod o gyfeiriad Talcymera tua thri o'r gloch foreu Sadwrn gyda chi, ond gan nad oedd ganddynt helwriaeth gyda hwy, ar y pryd ni bu iddo eu harchwilio.Tua haner dydd dranoeth gwelodd hwy yn dod o gyfeiriad y West End a nifer o gwnhingod gyda hwy. Tystiodd yr Arolygydd Owen i'r ddau ddiffynydd ddod i'r swyddfa nawn Sadwrn. Dywedodd y ddau eu bod wedi dal y cwnhingod yn y golf links, ond addefodd William Owen mai tri o'r gloch y boreu y bu iddynt eu dal yn y golf links. Dywedodd Mr. Cradoc Davies ei fod yn ymddangos yn answyddogol ar ran y diffynyddion, am ei fod yn ysgrifenydd y clwb golf a'r diffynyddion yn gweithio yno. Daliai nad oedd yr erlynwyr wedi profi eu hachos am eu bod wedi archwilio y dynion gymaint o amser ar ôl yr adeg yr honid i'r trosedd gymeryd lle. Yr oedd y dynion wedi cael caniatad i ddal gwnhingod yn y maes golf ac felly nid oeddynt wedi cyflawni unrhyw drosedd wrth fyned i'r lle.
Tystiodd Mr. J. Bowman, gofalwr am y clwb, ei fod ef wedi rhoddi caniatad i'r diffynyddion i ddal cwnhingod yn y maes golf. Yn ateb i'r Heddwas Thomas dywedodd fod ganddo hawl i ddal tyrchod daear, cwnhingod, a phob math o ymlusgiaid oedd yn trespasu ar y maes. (chwerthin). Nid oeddynt yn talu i'r diffynyddion am eu daI, ond yr oeddvnt vn cael y cwnhingod am eu llafur.
Tystiodd David Hughes ei fod ef yn gweithio i bwyllgor y golf ac yn cadw y lle mewn trefn, ac yr oedd wedi cael caniatad i ddal y cwnhingod.
Y Clerc - Fe fu i chwi gael eich cosbi am drosedd cyffelyb yn y llys hwn o'r blaen. Mr Cradoc Davies - Mae hyn yn drwyadl afreolaidd. Dyma y tro cyntaf iddo ef glywed Clerc y llys yn gofyn cwestiwn o'r fath cyn i'r ynadon benderfynu pa un a fyddai iddynt gosbi a'i peidio, ac yr oedd yn dymuno protestio yn erbyn yr ysbryd yr oedd y Clerc wedi ei ddangos ar hyd yr achos.
Rhoed tystiolaeth bellach gan William Owen, ac wedi ymneillduo bu i'r fainc eu dirwyo i dri gini, yn cynwys y costau, yr un.
Herald Gymraeg 10/11/1914
LLYTHYR O FAES Y GAD.
Derbyniodd priod Private David Hughes (Tremadog), Penrhydlyniog, y llythyr a ganlyn oddiwrtho o'r Dardanelles.Anwyl Wraig a Theulu,
Derbyniais dy lythyr yn saff ar yr 20fed o Awst, a da oedd genyf ddeall eich bod yn iach, ond drwg genyf ddeall dy fod yn cwyno, ond gobeithio dy fod yn well erbyn hyn.
'Rwyf yn well o lawer erbyn hyn ar ôl dod o'r base. 'Rwyf wedi dod yn ôl i'r trenches, a mae hi yn well o lawer y tro yma achos mae y trenches yn well nag oeddan nhw y tro cynta. Rydym yn cael bwyd reit dda, ond ein bod yn ei neud ein hunain. Mae Humphrey bach yn bartner hefo mi, ac mi aethom ati i wneud pwdin y diwrnod o'r blaen, ac mi ddaru ini ferwi y dwr yn gynta, ac wedyn rhoi blawd am ei ben, ac mi ddaru'n ei spoilio yn lan. 'Roedd yn debycach i bast fydd gan Johny Elias yn pastio papurau. Bu imi lwyddo i wneud crempog reit dda gan fod genym dipin o saim cig moch.
Wel, mae yn debyg dy fod wedi clywed am Ned Hughes glawd, ei fod wedi cael ei ladd. Buaswn wedi deud yn gynt ond chawsan' ni ddim deud dim fel yma. Yr ydym wedi ei gladdu yn barchus mewn gardd yn ymyl tŷ ffarm ac mi rydan yn teimlo yn chwith iawn ar ei ôl.
Ond paid a bod yn ddigalon yn fy nghylch i, yr ydym wedi arfer efo pethau fel yna rwan, achos yr ydym yn gweld cymaint bob dydd. Mae y gynau mawr yn mynd bob munud ddydd a nos, fel yr ydym ni wedi colli ofn yn llwyr. Mae llawer o'r hogia yn mynd yn wael yma, ond mi rydw i yn allright, diolch i Dduw am hyny, a gobeithio y gwel o yn dda i fy spario i ddwad adre yn iach eto.
Wel nid oes genyf ddim mwy y tro yma, ond gobeithio dy fod yn dal dy galon i fynu a dy fod yn well dy iechyd erbyn hyn.
Yn fyr ac yn fler oddiwrth dy anwyl ŵr,
DAFYDD.
Yr Udgorn 29/09/1915
LLYTHYR MILWR O BWLLHELI I MR. G. CORNELIUS ROBERTS.
Dear Mr. Roberts,Just a few lines to thank you for your kind letter and parcel.
The Testament and tobacco reached me safely. I am deeply gratefully for your kindness in remembering me, even though so great a distance divides us. I appreciate to the full your selection in sending me a parcel. A testament, one is in great need of one, one is not always able to get to the infequent religion services, and as you are aware, Welshmen will I always get a "pregeth" even if they have to make one themselves. What I mean is, we have a little leisure time here even, and often such time is a time of meditation on higher things. Men live together here on much the same lines as they do at home. They are no more tough or brutal or "anystyriol." I had a testament which I found in the trenches. On receiving your kind gift I gave this to a young fellow who wanted one, and kept yours. Believe me, I shall read it, and I hope benefit by reading it, at every opportunity.
The tobacco was welcome indeed, you must have known my taste in the 'myglys' line, for I could not have wished for anything better than what you sent. I have chewed and chewed "fel hen fuwch yn ceoi ei chil. Tamaid i hen gnoiwr yma a thamaid i'r llall, a buasai yn codi hyd yn oed calon y Kaiser i weled gwen ar ein gwynebau wrth ei dderbyn." It was a treat such as we fellows do enjoy. To have just what we most dearly wish for is the height of enjoyment.
I am sorry to hear that Ned keeps bad so long. To cure any man of bad habits the best plan is to send him on Active Service with the Infantry. For my own part I do believe I could live a teetotal life "yn llwyr" when I return, 'ond cawn weld meddai chwi!' But really the small quantity of rum (rotten quality) issued to every man about once a week as a medicine only aggravates the stomach of a man who would drink. We often feel like flinging the myrmyn to the winds-but somehow we dont. It is, however, in my opinion that many men will be far stealier when they come back than they were previous to their departure from home.
Together with the rest of the Pwllheli fellows here I feel as fit as a fiddle—'yn iach fel y gnaeuen-fel buaswn yn dweyd yng Nghymru.' Remember me kindly to all the members of the Ragged School, to Mrs Roberts, Lieut. Roberts, and the other members of your family and with 'cofion gwresocaf' to yourself, believe me to remain yours sincerely,
DAFYDD TREMADOG.
Yr Udgorn 10/11/1915
Llythyrau oddiwrth ein Milwyr.
Derbyniodd y Maer (G. Cornelius Roberts, Ysw.), y llythyr canlynol oddiwrth Pte D. Tremadog Hughes, Penrhydlyniog, o'r Aipht, yn diolch am ei garedigrwydd tuag atynt.C. Coy 1 /6th R. W F
E E F.,
Mehefin 18fed, 1917
Anwyl Mr. Roberts,
Caniatewch i mi ddiolch i chwi dros yr hogia am yr anrheg o cigarettes. Ni welais i erioed y fath nifer o wahanol enwau ar bethau smocio. Yr oedd yn y parcel ganoedd o siartiau, a chwerthais wrth eu gweled. Mae yn amlwg fod amryw byd o'ch ffrindiau wedi cyfranu at yru yr anrheg hon, ac yr ydym yn diolch o galon iddynt bob yr un, ac yn arbenig i chwi.
Yr ydym yn gwybod o'r goreu nad ydym o'ch meddwl un amser, ac yr ydym yn edrych ar Faer Pwllheli fel ein ffrind persorol. Gwelsom yn un o bapurau lleol Sir Gaernarfon gwyn gan rhai o'r Territorials o'r trefi gogledd y Sir nad oeddynt yn derbyn dim sy!w gan eu cyd-drefwyr gartref. Wedi darllen yr oeddynt am anrhegion lawer yn cael eu gyru i'r "regulars" a'r " new army" yn Ffrainc a manau eraill, ond dim sôn am y Terriers oedd wedi bod oddi cartref ers cyn dechreu y rhyfel. Yr oedd hogia de Sir Gaernarfon yn gwenu wrth ddarllen y llythyr yn y papur.
Ond nid yr hir mae "boys Pwllheli" yn dioddef heb air gan rhyw gyfaill o'r hen dref, ac o bawb sydd yn cofio am danom yr ydych chwi syr, yn mhell ar y blaen. Wyddom ni ddim pa sut yr ydych yn cael amser i feddwl am danom - y mab yn Ffrainc, y teulu gartref, materion masnach, a dyledswyddau cyhoeddus, maent oll yn galw am bob munud o'ch amser, fel mae yn syndod eich bod yn gallu dod i ben i roi sylw bach i bob un o honynt. Felly yr ydym yn dra diolchgar eich bod yn gallu trefnu i ni gael ychydig o'ch amser gwerthfawr, ac ar yr un pryd i ddeall ein bod bob amser ar eich cof.
Da genyf ddweyd fod hogia y dref ar i fynu i gyd, a bron bob un o'r clwyfedigion wedi dod yn ôl.
Gan gofio atoch ac at Mrs. Roberts a'r teulu yn y modd mwyaf gwresog, yr ydym yn diolch o galon am y rhodd o cigarettes.
Wyf. eich eiddo,
DAFYDD.
Yr Udgorn 18/07/1917
Pwllheli Boys in Egypt.
LETTER TO THE MAYOR.
Mr. G. Cornelius Roberts, mayor of Pwllheli has received the following interesting letter from Pte. D. Tremadoc Hughes on behalf of the Pwllheli boys in Egypt"Dear Mr. Roberts,
The parcel which you so kindly sent to Pwllheii boys addressed to me arrived at the battalion when I was away on leave. My first duty on my return was a pleasant one. I made of a roll of all the Pwllheii boys and then figured out how to divide the gifts evenly. Armed with the roll I went round the companies ferreting out the 'Hogia Pwll.' They were all as pleased as if they had been promised 'Blighty leave.'
I cannot remember all their remarks and even if I could paper is really too scarce to attempt such a task as recounting all their expressions of gratitude. They all join in returning their heartiest thanks. In accordance with your request,
I am forwarding below a list of Pwllheli boys present in the battle on now - R.S.M. R. H. White, R.Q.M.S. R. H. Ravenhill, C.S.M. A. C. Dowsing, Sergt. Dick Lloyd, Corpl. W. R. Williams, Lance-Corpl. W. J. Jones, Lance-Corpl. Johnny Jones, Lance-Corpl. Evan Hughes, Ptes. Ellis Lloyd, E. M. Griffiths, Evan Griffiths, John Rowlands, J. O. Thomas, R. O. Price, Roger Griffiths, Bob Jones, Moses Parry, Bertie Hughes, R C Baring. J. Hughes, G J Roberts, W Thomas, J Roberts, S Davies and W Pratt.
The following were away on duty Sgt. Hughie Griffiths, Corpl. Jack Wright, W Christmas Jones, Jack Thomas, Humphrey Roberts, John R. Rowlands, John Roberts, G. W. Griffiths, and G. J. Thomas. Edgar Davies is in our divisional signal section. HarryWiLiams and his brother Morris have jobs up at division. Hugh Owen is in the Royal Engineers. Corpl. R. Hughes is in another regiment, and so is Johnnie Roberts, John E. Jones, and Llewelyn Turner. I think this is as complete a list as possible to complete.
Everything seems to be going on smoothly and all here are as cheerful as daisies, but at times hist a little disappointed at the slender chances of ever being granted leave to Blighty. Troops in France have had frequent leaveg since the summer of 1915, but here there are thousands of fellows who were sent overseas to the Gallipoli Peninsula and have never been home since. Just a bit rough on us, don't you thlnk. Still it is a soldier's duty to obey unquestionly and so we just carry on with an occasional 'grouse,' trusting that Dame Fortune will one day smile and that some of us may have the luck of short leave before very long.
Colonel Drage (Criccieth), who long ago commanded Pwllheli Volunteers, is now commanding battalion of Munstors here, and he rode here to see us the other day.
Thanking you again and wishing Mrs. Roberts and yourself every success.
Cambrian News 26/10/1917
Llythyrau Oddiwrth ein Milwyr.
LLYTHYR DAFYDD TREMADOG HUGHES.
Dear Mr Roberts,I hasten to write you a few lines knowing the interest you take in this regiment, as it contains so many Pwllheli Boys, and knowing too that your newspapers will have told you of our push out here. Perhaps, too, the papers will have told you of the prominent path the Welsh troops took in the storming of the Turkish positions, and that would make you anxious to know who had paid the price.
Though I regret to say we lost a number of fine officers and quite a lot of excellent men. I know you will be glad to hear that only three men of Pwllheli were hit. C S M Dowsing, Clarence Barma, and 988 J. Hughes (mab John Hughes, Peg), were wounded, and got away down the line with it. Barma and Dowsing I understand are only slightly wounded, but Hughes has been badly hit, though there is no reason to believe he will succumb to his injuries.
Now here is a truth that will give you satisfaction. Will Pratt (mab Sarah Pratt, South Beach;, one of our C Company Lewis Gunners, gave the Turks such a warm time with his gun, and did much terrible execution among them, that he has been awarded the Military Medal. I wonder, we are all wonder, whether this is the first honour to be won by Pwllheli boy during this year. The medal ribbon was pinned on his chest yesterday by General Chetwode.
These operations have been the hardest we have been called upon to undertake. Long marching and hard close hand-to-hand fighting has been the order of the day for the past 3 weeks and what has been more trying than anything else, beyond even scarcity of water, rations, the ever-present flies, and the terrific heat and choking dust, and back aching packs, is the fact that during the operations our issue of smokes was stopped entirely.
DAFYDD.