ERLYN PYSGOTWYR PWLLHELI.

Mewn ynadlys arbennig ym Mhwllheli, ddydd Gwener, gerbron Mri. J. G. Jones (cadeirydd), O. H. Lloyd Edwards, J. Hughes Parry, a Dr. S. W. Griffiths, gwrandawyd achos o ddiddordeb mawr i bysgotwyr.

Cyhuddwyd pump o bysgotwyr y dref o ddefnyddio rhwydi yn mesur rhy fychan i bysgota o fewn y terfyn gosodedig. Ymddanghosodd Mr. S. R. Dew, Bangor, i erlyn ar ran Bwrdd y Pysgotfeydd, ac amddiffynwyd gan Mr. W. Cradoc Davies. Y diffynyddion oeddynt Richard Wright, meistr y "Winnie Freda"; Thomas Williams, Penrhydleiniog, meistr y "Nora"; Evan Harris, Sand-street, meistr "Ellen Nora"; Edward Davies, Penmount Square, meistr y "Polly" a William Wright, Aberystwyth, meistr y "Thora."

Cymerwyd achos Evan Harris yn gyntaf. Dywedodd Mr. S. R. Dew mai amcan y Bwrdd y Pysgotfeydd yn dod a'r achosion ymlaen ydoedd diogelu'r pysgotfeydd. Yr oedd y diffynyddion, trwy ddefnyddio rhwydi bychain, yn dal pysgod cyn eu bod wedi dod i faint masnachol. Ar Hydref 28ain daeth yr agerlong "James Fletcher," perthynol i Fwrdd y Pysgotfeydd, i'r porthladd a gwelwyd wyth o longau pysgota o Bwllheli yn pysgota y tu fewn i'r terfynau. Yr oeddynt tua 2 3/4 milltir y tu fewn i'r terfynau, ac yr oedd eu rhwydi tua dwy fodfedd, yn rhy fychan.

Tystiodd Dr. Travers Jenkins ei fod ef yng ngwasanaeth Bwrdd y Pysgotfeydd ers 15 mlynedd. Yr oedd ef ar fwrdd yr agerlong "James "Fletcher" ar y dyddiad dan sylw, a gwelodd y llongau yn pysgota y tu-fewn i'r terfyn gwaharddedig. Bu i'r Mate Wilson fyned ar fwrdd llong y diffynydd Harris. Daeth a sampl o'r pysgod a ddelid ac hefyd darn o rwyd y diffynydd. Ni ddylid dal pysgod mor fychan. ac yr oedd y rhwyd yn rhy fychan. Gwelodd ef Capten Nicholson yn cymeryd mesur o safle'r llong, ac yr oedd y tufewn i'r terfynau.

Mewn atebiad i Mr. Cradoc Davies dywedodd nad oes unrhyw arwydd i nodi'r terfynau i'r pysgotwyr yn y môr, ond fod yno farciau ar y tir.

Mr. Davies : Pa farciau sydd yna ar y tir ?

Dr. Jenkins : Wel, gallwn nodi Castell Harlech, Carreg yr Imbyll a Trwyn Du, Llanbedrog. Addefai nad oedd yn hawdd i'r pysgotwyr wybod lle yr oeddynt. yn y bau. Addefodd hefyd fod y Bwrdd wedi newid eu rheolau i ganiatau rhwyd 6 yn lle 7 modfedd am fod pysgotwyr wedi dweyd nad oedd modd dal pysgod gyda rhwyd 7 modfedd. Nid oedd yn meddwl y gallai pysgodyn marchnadol ddianc o rwyd 6 modfedd. Addefai na wnai pysgodyn (sole) 8 modfedd bwyso mwy na 3 owns. Cydnabyddal fod pysgotwyr Pwllheli yn ddoeth ymdrechgar ac yn weithwyr caled, ac ni chafodd unrhyw drafferth gyda hwy erioed. Mewn ateb i gwestiynau pellach, dywedodd ei fod yn gwybod fod y Bwrdd Amaethyddol wedi anfon allan gylchlythyr yn pwyso ar i'r pysgotwyr ddal gymaint ag a allent rywfodd o bysgod, ond ei farn ef ydoedd fod yn anffortunus fod y Bwrdd wedi anfon y cyfryw gylchlythyr o gwbl.

Gyda golwg ar y llythyr a anfonodd y Bwrdd i bysgotwyr Aberdaron yn eu hawdurdodi i godi'r lobsters, ac y cymerai'r Bwrdd Amaethyddol y cyfrifoldeb os y byddai Bwrdd y Pysgotfeydd yn erlyn, yr oedd y Bwrdd wedi ymddiheuro am y llythyr hwnnw. Ni wyddai fod y pysgotwyr yn defnyddio rhwyd a elwid yn "rhwyd y rhyfel" ymhobman.

Mr. Davies : Nis gellwch ymadael oddiwrth lythvr Mr. Prothero, Llywydd y Bwrdd Amaethyddol ?

Y Tyst : Yr oedd yn llythyr anffortunus i'w ysgrifennu. Nid amheuai nad oedd pysgotwyr Pwllheli wedi ateb i alwad eu gwlad yn ystod y rhyfel. Yr oedd ef wedi rhoddi caniatad i Harris ddefnyddio rhwyd 5 modfedd hyd Mawrth 31, 1910. Addefai y buasai'n fuddiol cael marciau i nodi'r terfynau yn y môr. Ond nid oedd gan Fwrdd y Pysgotfeydd awdurdod i osod y cyfryw.

Tystiodd Mr C. E. Wilson ei fod yn mate ar yr agerlong "James Fletcher," ac mai efe aeth ar fwrdd llong y diffynydd y dyddiad dan sylw. Dywedodd na fu i Harris ddweyd ei fod y tuallan i'r terfynau o gwbl. Cymerodd sampl o'r pysgod oddiarno, a dywedodd Harris wrtho, "Er mwyn popeth peidiwch a chymeryd y pysgod ymaith neu fe roddwch y show ymaith." Torrodd ddarn o'r rhwyd, yr hon oedd tua 5 modfedd. Addefai i'r mesur fyned drwy ran flaen y rhwyd, ac mai'r rhan honno oedd y fwyaf pwysig.

Mr. Davies : Nid ydynt yn dal pysgod a'r dorn a gymerasoch chwi?"

Y Tyst : Ni buasai'n rhwyd heb y rhan honno. Mewn atebiad i gwestiynau pellach addefai fod yr agerlong "Roads" dros y nos, ac y gallai'r pysgotwyr eu gweled cyn mynd allan. Ni ddywedodd wrth y diffynydd ymha safle yr ydoedd, ond dywedodd fod ei rwyd yn rhy fychan. Mr. Davies : Pe y dymunai Harris gallasai fod wedi dianc.

Y Tyst : Gallasai wneud ymgais i ddianc (chwerthin).

Mr. Dew : Llwyddodd dwy ohonynt i ddianc?

Y Tyst : Do (chwerthin).


BYGWTH CLIRIO'R LLYS.

Y tyst nesaf ydoedd Capten E. H. Nicholson, meistr "James Fietcher." Yn ystod ei dystiolaeth ef aeth y pysgotwyr oedd yn y llys braidd yn afreolus a bygythiodd y Clerc glirio'r llys. Yr oedd y llys yn llawn o bysgotwyr y dref. Dywedodd Capten Nicholson fod "Ellen Nora" tua 2 3/4 milltir y tu fewn i'r terfynau. Cadarnhai dyistiolaethau y tystion blaenorol.

Mewn atebiad i Mr. Davies, dywedodd nad oedd yn dywydd garw iawn y bore dan sylw. Nid oedd ef yn meddwl fod y pysgotwyr yn gwybod fod ei long ef yno o gwbl, onide ni buasent yno.

Mr. Davies : A oedd arnynt eich ofn chwi ?

Y Tyst : Bu iddynt geisio dianc.

Mr. Davies : A fu i long Harris geisio dianc ?

Y Tyst : Gwnaethant eu goreu i gyd.

Mr. Davies : Atebwch fy ngwestiwn. A fu i long y diffynydd Harris geisio dianc?

Y Tyst : Nis gallaf ddweyd am dano ef yn arbennig.

Mr. Davies : Ac nid ydych yn meddwl iddynt eich gweled yn y Roads?

Y Tyst : Naddo! (Lleisiau y pysgotwyr or llawr "Do fe'ch gwelsom chi yn y bore," a chynwrf mawr fel y bu raid i'r Clerc fygwth clirio'r llys.).

Tystiodd Evan Harris, y diffynydd, ei fod yn pysgota ar y llong "Ellen Nora" y dyddiad dan sylw. Yr oedd yn fore ystormus iawn. Nid oedd ef byth yn defnyddio pocedau yn y rhwyd am fod cymaint o chwyn yn y Bau. Yr oedd yn tagu'r rhwyd. Yr oedd yn cofio'r tyst Wilson yn byrddio ei long. Llwyddodd i roddi'r mesur 6 modfedd trwy ran o'r rhwyd gyda thipyn o bwyso. Nid oedd y rhan a dorrwyd allan gan Wilson o unrhyw werth i ddal pysgod. Gyda'r rhan flaen y delid pysgod. Yr oedd ef ar fin taflu' rhwyd yr ail dro pan ddaeth y swyddog yno. Yr oedd ef yn gwybod fod yr ager-long yn y Bau. Gwelodd hi yn y bore.

Yr oedd ef a'i gyd-bysgotwyr wedi cael cylch lythyrau o'r Bwrdd Amaethyddol droion yn pwyso arnynt ddal cymaint ag a allent o bysgod rywfodd er ychwanegu at gyflenwad ymborth y wlad. Deallai fod hynny yn rhoddi hawl iddynt i ddefnyddio unrhyw fath o rwydi am y dalient ragor o bysgod. Ni welodd ef yr hysbysiad yn y newyddiadur lleol gan Fwrdd y Pysgotfeydd yn galw arnynt i ddefnyddio rhwydi yn unol a man reolau'r Bwrdd. Ni byddai ef byth yn darllen y papur lleol. Nid oedd ef yn cofio iddo ddweyd wrth Wilson am beidio a chymeryd y pysgod ymaith rhag rhoi y show i ffwrdd. Buasai wedi cymeryd tri yn ychwaneg buasai wedi cymeryd yr holl ddalfa ymaith (chwerthin).

Yr oedd yr oll o'r rhwyd yn 6 modfedd pan wnaeth ef hi ddwy flynedd yn ôl ond yr oedd yn byrhau wrth ei defnyddio. Addefai ei bod braidd yn dyn mewn rhai mannau. Nis gallent gael rhwyd newydd am dri neu bedwar mis. Mewn atebiad i Mr. Dew addefodd iddo gael caniatad i ddefnyddio rhwyd 5 modfedd gan Dr. Jenkins yn Hydref, 1917, ond diddymwyd y cyfryw yn ddiweddarach, Nid oedd ef byth yn gweld y papur lleol. Addefai nad oedd ei rwyd yn llawn 6 modfedd.

ACHOSION ERAILL.

Dywedodd Mr. Dew fod yr achosion eraill rywbeth yn debyg, ond fod rhwydi rhai ohonynt yn llai.

Tystiodd Mr. C. E. Wilson yn achos Thomas Williams, "Nora," fod y rhwyd yn mesur llai na 4 modfedd; Richard Wright, "Winnie Freda," 4 modfedd; William Wright, "Thora," 4 modfedd; Edward Davies, "Polly," 4 modfedd. Nid oedd ef yn sicr a oedd y pocedau wedi eu cysylltu a'r rhwydi a'i peidio.

YR AMDDIFFYNIAD.

Dywedodd Mr. Cradoc Davies mewn amddiffyniad, fod yr achos yn un pur ddyrus gyda golwg ar y llinell derfyn a mesuriadau'r rhwydi. Yr oedd yn perthyn i'r pum llong bysgota 14 o ddynion, ac yr oedd wyth ohonynt wedi gwasanaethu eu gwlad yn y rhyfel. Yr oedd tri wedi eu gwrthod i'r fyddin a phedwar arall yn barod i dderbyn blwydddal. Yr oedd pedwar o'r diffynyddion wedi gwasanaethu eu gwlad. Yn achoe Evan Harris yr oedd ei rwyd ef yn dod i fyny a'r mesur. Atgoffai'r fainc fod y wlad yn ystod y rhyfel wedi gorfod rhoddi llawer o fan reolau ac arferion heibio. Yr oedd y Bwrdd Amaethyddol wedi anfon cylchlythyrau i'r pysgotwyr yn gofyn iddynt wneud eu goreu i ddal rhagor o bysgod, gan fod mor bwysig cadw'r bwyd gyflenwad i fyny yn ystod y rhyfel. Gofynwyd iddynt ddal pysgod rywsut am fod pob pysgodyn yn gymorth i'r wlad i sicrhau buddugoliaeth. Wel, yr oedd pysgotwyr Pwllheli wedi ateb yn rhagorol i'r apel hon, ac wedi cynhyddu eu cyflenwad pysgod o 1,151 cant yn 1917 i 3,972 cant yn 1918. Allan o'r 15 trefi oedd dan arolygiaeth y Bwrdd yr oedd Pwllheli wedi codi o'r pumed i fod yn drydydd trwy Loegr a Chymru. Yr oeddynt wedi cynhyddu 1,800 cant mewn un chwarter. Yr oedd pawb ohonynt dan yr argraff fod ganddynt hawl i ddefnyddio arferion a mesurau adeg y rhyfel o hyd. Yr oedd rhai ohonynt newydd ddod yn ôl o'r rhyfel ac yn gwybod dim am y trefniadau.

Apeliai am dynerweh oddiar law y fainc gan fod y pysgotwyr yn peryglu eu bywyd i fyned allan ar bob math o dywydd i bysgota. Yn yr hen amser ni byddai pysgotwyr Pwllheli byth yn pysgota yn y gaeaf, ond yn awr yr oeddynt yn pysgota ar bob tywydd, ac nid oedd fawr er pan fu i un o'r diffynyddion beryglu ei fywyd i arbed bywyd ei gyfaill oedd wedi syrthio dros y bwrdd. Credai yr oll fod ganddynt berffaith hawl i wneud yr hyn a gyflawnwyd ganddynt.

Wedi ymneilltuo am beth amser dywedodd y Cadeirydd eu bod wedi penderfynu ymddwyn yn dyner at y diffynyddion gan eu bod wedi gwneud cymaint er cynorthwyo eu gwlad yn ystod y rhyfel, ac yn gosod dirwy o lp. yr un.

Mr. Dew : A ganiatewch chwi y tal arferol i'r cyfreithiwr?

Y Cadeirydd: Na wnawn. Mae'r oll yn gynwysedig yn y bunt.

Mr. Dew : Diolch.

Yr Herald Gymraeg 09/12/1919