MEWN OEDRAN TEG.

Ddydd Sadwrn, Ebrill 20fed, yn nhy ei mherch yn Methesda, bu farw un o hen drigianwyr y dref yn mherson Mrs Mary Thomas, priod y diweddar Mr Morris Thomas, Penrhydlyniog, a hi yn 77 mlwydd oed.

Llesg a gwan oedd sefyllfa ei hiechyd y blynyddoedd diweddaf, ond cafodd bob ymgeledd a gofal priodol yn ei gwaeledd gan ei merch. Yr oedd yn gymeriad gwreiddiol a dawnus, ac yn Wesleaid i'r carn.

Ddydd Mercher dilynol cludwyd ei gweddillion marwol mewn cerbyd modur o Fethesda i'w rhoi i offwys yn naear dawel Denio. Gwasanaethwyd gan y Parchn. R Conway Pritchard a Pierce Owen, B. A., Ciwrad.

Cydymdeimlir yn fawr a'i phlant yn eu galar, yn enwedig a'i mab Griffith sy'n y Fyddin.

Yr Udgorn 01/05/1918