MARW HEN DRIGIANYDD.
Foreu heddyw (dydd Mawrth) bu farw yr hen drigianydd adnabyddus Mr William Roberts, Gôf, Rhydlyniog, ac efe yn 70 mlwydd oed. Nid oedd ei iechyd yn dda er's amser, ond ni ddychmygid fod y diwedd mor agos.Yr oedd yn gymeriad tawel a diymhongar, ac yn fawr ei barch yn mysg llu o'i gydnabod oherwydd ei gymeriad glan a didwyll. Yr oedd yn aelod selog yn Mhenlan, a chymerai ddyddordeb arbenig yn y gwahanol foddion yno.
Cymer y gladdedigaeth le, yr hon fydd cyhoeddus i ddynion yn unig, ddydd Gwener yn mynwent newydd Denio. Cydymdeimlir yn fawr a'i briod a'r plant yn y brofedigaeth chwerw.