Ceidwad y Lladd-dy.

Gwnaed yn hysbys na fu Mr William Roberts, ceidwad y Lladd-dy, yn alluog i wneud ei waith oherwydd gwaeledd ers naw mis, ac fod y Cyngor wedi talu iddo ddeg swllt yr wythnos am yr amser hwnw, heblaw talu cyflog llawn i un arall am wneud ei waith.

Pasiwyd i hysbysu Mr W. Roberts nas gallai'r Cyngor dalu y swm wythnosol ar ôl y 3ydd o Ebrill, ond y byddai ei le iddo drachefn pan fyddai wedi gwella digon i ymgymeryd a'i waith.

Yr Udgorn 07/04/1915


MARWOLAETH.

Ddydd Gwener bu farw Mr. William Roberts (yr hwn ofalai am y lladd-dy), New Row, Penrhydlyniog, wedi cystudd maith, yn 63 mlwydd oed.

Yr oedd yn gymeriad difyr a gwreiddiol, a bu am rai blynyddau yn cynrychioli y dref ar y Cyngor Trefol.

Claddwyd ei weddillion ddydd Llun yn mynwent Denio. Gwasanaethwyd with y tŷ gan y Parchn. J. Rhydderch ac E. Mostyn Jones, ac wrth y bedd gan y Parch. J. Edwards, B.A., y ficer.

Cydymdeimlir a'r weddw a'r teulu oll yn eu profedigaeth.

Yr Udgorn 01/12/1915