YR YNADLYS.

Cynhaliwyd dydd Mercher. Yr oedd yn bresenol Mri J. G. Jones, William Thomas a W. W. Griffith.

ANFON DAU FACHGEN I YSGOL HYFFORDDIADOL.

Cyhuddwyd Thomas Williams, Penrhydlyniog, o beidio ag ufuddhau i archeb i anfon dau o'i fechgyn i'r ysgol.

Rhoed tystiolaeth gan Dr. Parry Edwards ynglyn a'r plant, ac awgrymai Mr E. R. Davies, ar ran yr erlynydd, y byddai yn well er budd y plant eu hanfon i Ysgol Hyfforddiadol.

Gwnaed archeb i anfon y ddau fachgen i Ysgol Hyfforddiadol.

Yr Udgorn 09/05/1917