MARW'N IEUANC.
Cydymdeimlir yn gyffredinol a Mr. a Mrs. Evan Evans, Penybont, Fourcrosses, gynt o'r dref hon, ar farwolaeth sydyn eu mab, Rowland Evans, yr hyn a gymerodd le dydd Mawrth ac efe ond 19 mlwydd oed.Bu yn gwasanaethu am tua chwe blynedd gyda Mr. Samuel Lloyd, grocer, ond yr oedd wedi ymadael i Fflint er's tua blwyddyn.
Daeth adref rhyw bythefnos yn ôl i fwynhau ychydig o wyliau, ond cymerwyd ef yn wael ar ei gyrhaeddiad yma, a bu farw fel yr hysbyswyd.
Claddwyd ef dydd Iau yn mynwent Denio.
Herald Gymraeg 06/10/1914
MARWOLAETH.
Drwg genym orfod hysbysu am farwolaeth Mr Roland Evans, mab Mr a Mrs Evan Evans, Penmount Place (ond yn awr Penybont. Rhydgoch, Fourcrosses), yr hyn a gymerodd le ddydd LIun, Medi 28ain, yn yr oedran cynharol o 19 mlwydd oed.Bu yn gwasanaethu yn masnachdy Mr S. Lloyd, Beehive, am rai blynyddau, ond yn mis Mawrth aeth i wasanaethu i Fflint, o ba le y daeth adref yn wael, ac ni fu ond ychydig ddyddiau yn gorwedd. Dydd Iau cludwyd ei weddillion i orphwys i fynwent newydd Denio, gan dorf luosog.
Gwasanaethwyd gan y Parchn. W. Jones, M. A., Fourcrosses, J. Puleston Jones, M.A. Cydymdeimlir a'r teulu oll yn eu profedigaeth chwerw ac anisgwyliadwy.
Dymuna Mr a Mrs Evans gydnabod yn ddiolchgar i'w gyfeillion yn ngwahanol fasnachdai y dref ac i bawb am y cydymdeimlad a'r caredigrwydd ddangoswyd tuag atynt yn eu trallod.