MARW HEN FASNACHYDD.
Yn hwyr nos Sadwrn bu farw Mr. Thomas Lloyd. Minydon yr hwn fu yn cadw masnach mewn crwyn etc , yn Pencob am tua 50 mlynedd.Yr oedd yn 84 mlwydd oed.
Yr oedd yn ŵr adnabyddus a chymeradwy iawn trwy y wlad ac wedi bod yn dra llwyddianus yn ei fasnach.
Herald Gymraeg 18/08/1914
ANGLADD HEN GYNGHORYDD.
Bore Mercher bu angladd Mr. Thomas Lloyd, Min y Don, fu yn aelod o'r Cyngor Trefol am amryw flynyddau, ym Mynwent Denio.Gwasanaethwyd gan y Parch John Hughes. B.A., B.D., Y prif alarwyr oedd Mri Richard a Thomas Lloyd Ellis. Minydon; D. Jenkins, Johnstown; Parch W. Morgan, Bethesda; Dr. R. Jones Evans, Pwllheli, Mr. David Williams, Pwlldefaid, a dau o wasanaethyddion yr ymadawedig, sef Mri Robert Hughes, a Robert Williams, y naill wedi bod yn ei wasanaeth am 51 o flynyddau a'r llall am 25 mlvnedd.
Anghyhoedd ydoedd yr angladd.