YNADLYS PWLLHELI.

Cynhaliwyd dydd Mercher, gerbron Cyrn. ol Lloyd Evans (cadeirydd), Mri. Claude Lloyd Edwards, G. Hughes Roberts, W. Thomas, Dr. Gwenogfryn Evans, a Mr. W. W. Griffiths.

MEDDWDOD.

Cyhuddfwyd Hugh Hughes, Penrhydliniog, Pwllheli, gan y Rhingyll Lloyd o fod yn feddw yn y Mitre Hotel, Pwllheli, ar y 31ain o'r mis o'r blaen.

Tystiodd y Rhingyll Lloyd iddo weled y diffynydd yn dod o'r Mitre Hotel, ac yn myned oddi yno i'r Black Lion.

Dywedodd y diffynydd ei fod wedi bod yn llwyrymwrthodwr ers pum mlynedd hyd yn awr. Gohiriwyd yr achos am dri mis.

DIRWYO TAFARNWR.

Cyhuddai yr Arolygydd Owen, Thomas Cunningham, Mitre Hotel, Pwllheii, o ganiatau meddwdod yn ei dŷ ac o roddi diod i ddyn meddw.

Ymddangosodd Mr. Hugh Pritchard ar ran yr heddlu. Dywedodd fod yr achos wedi tarddu o'r achos blaenorol. Gwelodd y Rhingyll a'r Heddwas Thomas y diffynydd, Hugh Hughes, yn dod o'r Mitre Hotel ar y 31ain o'r mis o'r blaen yn feddw iawn.

Addefodd y diffynydd wrth y Rhingyll Lloyd iddo roddi glasiad o gwrw i Hughes, a darganfyddodd wedi hyny fod y dyn yn feddw ac yna trodd ef allan. Gallai ddweyd fod meddwdod ar yr heol yn beth cyffredin iawn ym Mhwllheli. Tystiodd y Rhingyll Lloyd iddo weled Hugh Hughes yn dod o'r Mitre Hotel, yn bur feddw. Yr oedd wedi gwylio y tŷ am tuag ugain munud, ac ni welodd Hughes yn myned i mewn. Dilynodd Hugh Hughes oddiyno i'r Black Lion Hotel, ond ni bu iddo gael diod yno am ei fod yn feddw.

Yr oeddynt wedi bod yn cwyno wrth y diffynydd yn flaenorol. Dywedodd yr Arolygydd Owen mewn atebiad i'r Cadeirydd fod y diffynydd wedi ei orchymyn i dalu y costau mewn achos cyffelyb bedair blynedd yn ôl, ac yr oedd ef wedi cael achos i'w rybuddio ddwy waith ar ôl hyny.

Cydnabyddai y diffynydd ei euogrwydd. Dirwywyd ef i 2p. a 15/- o gostau.

Herald Gymraeg 24/11/1914


LLYS TRWYDDEDOL PWLLHELI.

Cynhaliwyd Llys Trwyddedol Pwllheli ddydd Mercher, geribron Cyrnol Lloyd Evans (Cadeirydd). Maurice Jones, J. G. Jones, Dr. S. W. Griffiths, W. W. Griffiths.

MITRE HOTEL, PWLLHELI.

Gwrthwynebodd Mr. William George, ar ran yr heddlu, i adnewyddiad trwydded y Mitre Hotel Pwllheli, i Mr. Thomas Cunningham am nad ystyrient Mr. Cunningham yn berson addas i ofalu am y tŷ, ac nad ydoedd y tŷ wedi ei reoleiddio yn briodol. Ymdangosodd Mr. W. Cradoc Davies ar ran y perchenog a trwyddedydd y tŷ.

Cyfeiriodd Mr. William George at rhyw ddigwyddiad a gymerodd le yng Nghaerna yn y flwyddyn 1913. Gwrthwynebodd Mr. W. Cradoc Davie gyfeirio at yr achos diweddar am ei fod wedi digwydd yng Nghaernarfon dwy flynedd yn ôl. Dywedodd y Clerc fod gan Mr. George berffaith hawl i gyfeiriio at yr amgylchiad. Yna aeth Mr. George rhagddo i gyfeirio at amgylchiad yn hanes y trwyddedydd pryd y cafwyd ef yn feddw yn Nghaernarfon ar Rhagfyr 11 1913. (Fe gofir mai dyma y dyddiad y bu Mr. Bonar Law, A.S. yn anerch cyfarfod politicaidd yng Nghaernarfon). Yr oedd y trwyddedydd wedi ei rybuddio droion gan yr heddlu o berthynas i gadwraeth y tŷ.

Tystiodd yr Arolygydd Edward Williams, Caernarfon, ei fod wedi cael ei alw i heol arbenig yng Nghaernarfon am 11.10 yr hwyr, Rhagfyr 13, 1913, a chafodd y diffynydd yn gorwedd yn feddw yn ei waed ar y palmant. Aeth ag ef i'r orsaf heddgeidwadol a bu yn anymwyibodol am chwarter awr. Galwodd y tyst ar Dr. Parry i'w olwg, a llwyddodd i'w adfervd. Yr oedd sawyr gwirodydd arno. Dygwyd ei achos o flaen y llys foreu dranoeth, a thrwy i Mr. E. R. Davies bwyso ar y fainc i fod yn dyner yn yr achos, gollyngwyd ef yn rhydd ar daliad y costau.

Mr. W. Cradoc Davies: Mae pobl yn bur gynhyrfus pan gynhelir cyfarfod politicaidd mawr onid vdynt? Yr Arolygydd: Ydynt weithiau.

Mr. Davies: Ac y mae pobl Caernarfon yn enwog am golli eu penau ar achlysuron o'r fath?

Yr Arolygydd: Ni chawsom ond dau achos o feddwood yn y dref y tro hwnw, ac y mae yn ddrwg genyf ddweyd wrthych fod, y ddau berson hyny yn dod o Bwllheli (chwerthin).

Tystiodd y Rhinigyll Lloyd ei fod wedi caei cryn drafferth gyda'r Mitre Hotel y deuddeng mis diweddaf. Ym Mehefin bu iddo ei rybuddio am ei fod wedi gweled dyn meddw yn clod o'r tŷ, ac yn ddiweddarach cafodd ei ddirwyo i bunt a'r costau am werthu diod i ddyn meddw. Yn ei farn ef nid oedd y trwyddedydd yn ddyn cymhwys i ofalu am y tŷ.

Yn ateb i Mr. Davies dywedodd fod y tŷ wedi cael ei gadw mewn trefn dda ar ôl i'r trwyddedydd gael ei ddirwyo. Rhoed tystiolaeth bellach i'r un perwyl gan yr Arolygydd Owen, yr hwn a ddywedodd nad oedd mor ofalus ag y dylai mewn cadw rheolaeth ar y tŷ.

Gofynodd Mr Cradoc Davies am adnewyddu y drwydded. Dywedodd fod gan y perchenogion bob ymddiried yn Mr. Cunningham, ac yr oedd wedi bod bob amser yn ddyn parchus a gwyneb agored, ac yr oedd yn datgan ei ofid am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn.

Adnewyddwyd y drwydded.

Herald Gymraeg 09/02/1915


DAMWAIN ANGEUOL GYDA CHERBYD MODYR.

Setlo Cynghaws am Iawn.

Ym Mrawdlys Caernarfon, ddydd Gwener, yr oedd achos i gael ei wrandaw yn dal cysylltiad a damwain a gymerodd le i gar modur yng Nghynnog rai misoedd yn ôl.

Yr hawlyddion oeddynt Richard Lloyd, amaethwr o Nannerch, a dau fasnachydd anifeiliaid o'r enwau Roberts a Price, a'r diffynydd T. Cunningham, Mitre Hotel, Pwllheli.

Hawliai R. Lloyd fel ysgutor y diweddar Griffith Lloyd.

Ar ran y diffynydd dywedodd Mr Ralph Bankes, K.C. (yn cael ei gyfarwyddo gan y Mri E. R. Davies a Davies) fod y pleidiau wedi, dyfod i delerau. Eiddo y diffynydd oedd y cerbyd. Tra yr oedd y cerbyd, yn cynwys G. Lloyd, Roberts, a Price, yn myned i lawr allt serth gerllaw Clynnog, aeth rhywbeth allan o le, dymchwelwyd y cerbyd, a lladdwyd G. Lloyd tra y cafodd y ddau eraill eu niweidio.

Ni chydnabyddal y diffynydd ei fod yn euog o unrhyw esgeulusdra, ond dan yr amgylchiadau, ac yn neillduol gan ei fod yn adnabod yr hawlyddion yn dda, yr oedd yn barod i roddi cydnabyddiaeth iddynt am y ddamwain a hyny ar raddfa haelionus. Ar ran yr hawlyddion cydsyniwyd â hyn gan Mr Ellis Jones Griffith, K.C., A.S. (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr H. C. Davies) a thynwyd yr achos yn ôl ar y telerau y cytunwyd arnynt.

Yr Herald Gymraeg 23/01/1917