ENILL. Y FEDAL FILWROL.
Llongyfarchwn Private James Jones, mab Mr a Mrs David M. Jones, Mitre Terrace, ar ei waith yn enill y Fedal Filwrol am wrhydri neillduol o'i eiddo yn Ffrainc.Dangosodd ddewrder dihafal o dan amgylchiadau eithriadol, a chymeradwywyd ef i sylw yr awdurdodau uchelaf y fyddin ar unwaith.
Dymunwn iddo lwydd uwch eto.
Yr Udgorn 10/07/1918
WEDI EI GLWYFO.
Drwg genym ddeall fod Private James Jones, mab Mr. a Mrs. David M. Jones, Mitre Terrace, wedi ei glwyfo ya Ffrainc a'i ddwyn drosodd i ysbytty yn Lloegr.Bydded iddo adferiad buan.