HUNO MEWN HENAINT TEG.

Ddydd Mawrth, wedi cystudd hir, bu farw Mrs. Laura Hughes, Mitre Terrace, a hi yn 65 mlwydd oed. Yr oedd Mrs. Hughes yn fam, rinweddol a gofalus, ac yn gymydoges hawddgar a chymwynasgar. Er mewn mynych wendid ceid hi bob amser yn siriol a dirwgnach.

Cymerodd ei chladdedigaeth (anghyhoedd) le ddydd lau yn mynwent Denio. Gwasanaethwyd gan y Parch. Thomas Williams, Elms.

Gedy ar ei hol fab a merch mewn trallod dwys, รข'r rhai y cydymdeimlir yn fawr.

Yr Udgorn 06/11/1918