MARWOLAETH.

Nos Sadwrn, ar ôl hir waeledd, bu farw Mr. Owen Roberts, priod Mrs. Catherine Roberts, 53, New Street, ac efe yn 69 mlwydd oed. Morwr ydoedd yr ymadawedig wrth ei alwedigaeth, ond ei fod wedi ymneilltuo o'r mor ers blynyddau bellach. Yr oedd yn gymeriad tawel a hynod o ddiymhongar.

Cymerodd ei gladdedigaeth le dydd Mawrth ym Mynwent Denio. Gwasanaethwyd gan y Parch. T. Williams, Elms, a'r Parch, J. Edwards, B.A. (Ficer).

Cydymdeimlwn a'i briod, plant, a'r perthynasau oll yn eu profedigaeth.

Yr Herald Gymraeg 15/07/1919