MARWOLAETH.
Ddydd Gwener, yn dra anisgwyliadwy, bu farw Mrs. Sarah Evans, priod y diweddar Mr. Evan Evans, goruchwyliwr Cwmni'r "Lighter," New Street, a hi yn 73 mlwydd oed.Ymddengys nad oedd ei hiechyd yn gryf er's tro, ond ni feddyliodd neb fod y diwedd mor agos. Yr oedd Mrs. Evans yn wraig ddoeth a chynil ei geiriau, ac yn llythyrenol yn byw y gwirionedd. Ynghanol profedigaethau caled bywyd ymostyngai yn dawel i'r llaw ddwyfol a'u dygent oddiamgylch.
Pan gollodd ei mab - Private John Parry Evans - ar faes y gwaed ymostyngodd i'r oruchwyliaeth galed yn deilwng o un yn meddu ar wir ddoethineb a duwioldeb uchel.
Yr oedd yn gymydoges gymwynasgar ac yn fam addfwyn a thyner i'w phlant. Hoffid hi fel cymeriad prydterth gan bawb, a bydd ei cholli yn loes i lu. Magodd deulu lluosog sy'n anrhydedd i'w rhinweddau uchel. Bu'n aelod ffyddlon yn eglwys Penlan am oes faith.
Cymerodd ei chladdedigaeth (anghyhoedd) le ddydd Mawrth yn mynwent Denio. Gwasanaethwyd gan y Parch. J. Rhydderch.
Cydymdeimlwn รข'i phlant yn eu tristwch dwfn o golli un mor anwyl.