MARW CYMERIAD ADNABYDDUS.

Yn marwolaeth Mr John Hughes, coach builder, New Street, collodd y dref a'r gymydogaeth un o'r rhai hynaf o'r trigolion. Yr oedd wedi cyrraedd yn agos i 90 mlwydd o'i oedran. Yr oedd yn gymeriad dyddan, llawn ffraethineb, ac yn meddu llu o hanesion am bobl a phethau'r rhan hon o'r wlad. Pe buasai ganddo ronyn o uchelgais, o ran ei allu, gallasai fod yn ŵr o ddylanwad mewn cymdeithas.

Brodor o Bencaenewydd, Llangybi, ydoedd, a threuliodd foreuddydd ei oes o gwmpas Llyn Glasfryn. Cyfoed iddo oedd y diweddar Barch J. C. Williams Ellis, Y.H., Glasfryn, a'r hwn y bu iddo lawer o gyfathrach ar hyd ei oes. Cafodd beth addysg fel a geid mewn "ysgol yn y wlad" y pryd hwnnw, ond at y gwaith o ddysgu crefft y saer coed i'r Gydroes y bu raid iddo gychwyn yn fore. Yr oedd gwneuthuriad y rheilffordd yn cymeryd lle, a son am hynny yn y rhan hon yn rhoddi cryn fywiogrwydd yn y gwaith o adeiladu tai. Felly yr oedd yn Llanberis ar hynny o bryd, ac yno ymysg eraill y trodd yntau ei wyneb oddicartref gyntaf.

Bu yno, ac yn Lerpwl am dymor, hyd nes iddo gael ei lyncu i fyny a'r syniad o groesi'r Werydd i'r America. Anturiaeth fawr oedd croesi'r adeg hono gan y cymerai gryn amser i forio yn y llongau oedd ganddynt y pryd hwnnw. Cychwynodd ef a char iddo, y diweddar Sergeant Thomas, Llanrug, ar fordaith. Yr oedd yno ar y pryd nifer o dramoriaid anystywallt, a helynt fawr a gafwyd ar y fordaith i gadw'r giwaid rhag dwyn yr ymborth oedd yn y llong. Galwodd y capten ar i'r teithwyr Prydeinig i gynorthwyo, ac nid oedd ail i Sergeant Thomas am ostegu'r cythrwfl. Adwaenid ef yn eu plith fel y dyn a'r dwrn haiarn, gan mor ddiseremoni y byddai yn llorio'r gwrthryfelwyr. Glaniwyd yn ddiogel yr ochr draw, ac nid hir y bu'r ddau gydymaith cyn eu bod yn gweithio yn Utica.

Yr oedd yno ddigon o waith i'w gael, gan fod y dref yn cynhyddu'n gyflym. Codid adealadau mawrion, ac uchel, gyda phrysurdeb nodweddiadol o'r "Yankee," ond nid gofal mawr am ddiogelwch y gweithwyr. Cafodd ef ac eraill oedd yn gweithio ar ben un o'r adedladau ddihangfa fawr un tro, oherwydd rhoddodd yr esgynloriau ffordd o dan y pwysau, a chwympodd y cwbl i'r llawr, a lladdwyd y dynion oedd yn digwydd bod yn sefyll arnynt. Wedi i J.H. gael ei draed ar y ddaear yr oedd wedi darfod a'r gwaith o ddringo i ben adeiladau, a phenderfynodd fynd i'r wlad o gwmpas, lle y bu'n gweithio celfi amaethyddol i'r ffermwyr.

Cyfarfu â damwain i'w goes, ac oherwydd diffyg cael meddyg mewn pryd, dioddefodd yn fawr. Bu hyn yn achos iddo ddod yn ôl i'r Hen Wlad i gael gweled beth allasai meddygon yma wneud iddo, a chyda meddwl troi yn ôl drachefn. Ond er meddwl, a siarad llawer ar hyd ei oes am hynny, yr ochr yma i'r Werydd y bu ei drigfan hyd ei fedd.

Ymbriododd a merch i Mr Humphrey Griffith, Ala Road Nursery, ac ym Mhwllheli y sefydlasant, ac yntau yn cychwyn busnes fel saer coed. Yr oedd Pwllheli yn bur anhebyg i'r hyn ydyw heddyw, oddeutu 60 mlynedd yn ôl. Daeth agoriad y ffordd o'r Maes, gyda glan y dwr i gyfeiriad Capel y Wesleaid presennol, a'r rhan hon o'r dref i sylw fel lle cyfleus i adeiladu tai. Ymhlith eraill adeiladodd yntau dŷ yno, ac y mae'n beth eithaf priodol i'w grybwyll darfod i brydles y tŷ ddirwyn i ben gyda terfyn ei einioes yntau.

Yr oedd ganddo duedd naturiol at beirianwaith, a bu'n foddion i ddwyn i sylw beiriannau at waith amaethyddol i'r rhan hon o'r wlad. Yr oedd yn "pioneer" mewn gwirionedd yn y cyfeiriad hwn. Yr oedd ei fusnes yn fwyaf neilltuol at waith cerbydau, a chyda hyn yn unig yn y blynyddau olaf. Bu ar hyd ei oes yn eisteddofdwr mawr, ac yn gystadleuydd llwyddiannus mewn amryw o honynt. Gallai wneud hynny, sef cystadlu, mewn celfyddydwaith, mewn traethodau, ac mewn barddoniaeth. Ond yn ddiau gwneud englyn oedd ei ddawn fwyaf gloew hyd y diwedd. Cymerodd ei le yn rheng cewri Rhyddfrydiaeth '68 er i hynny gostio iddo ddioddef yn ei fusnes. Diau fod llawer o bethau, heb fod "o'r goreu," yn perthyn iddo, ond er y cwbl un i'w hoffi oedd yr hen frawd yn ei gwmni.

Bu ei angladd ym mynwent Denio, ddydd Mawrth. 4ydd cyfisol. Gwasanaethwyd gan y Parch E. Thomas (curad).

Heddwch i'w lwch.
Pen Cob.

Yr Herald Gymraeg 11/03/1919