MARWOLAETH.

Dydd Gwener, yn dra disyfyd, bu farw Mrs. Ann Davies, priod Mr. Robert Davies (gynt Ash Cottage, New Street), Burry Port, Caerfyrddin, a hi yn 49 mlwydd oed.

Yr oedd Mrs. Davies yn treulio gwyliau'r Sulgwyn yn ein tref, ac edrychai y pryd hwnw yn iach a graenus yr olwg. Pwy fuasai'n dychmygu mai dyma y tro olaf y gwelid hi'n rhodio cynefin heolydd y dref mewn asbri bywyd. Yr oedd yn wraig ddiwyd a rhadlon, yn garedig a chymdeithasol, ac yn hoff gan gylch ei chydnabyddiaeth. Bu yn aelod ffyddlawn yn eglwys Penlan.

Cleddir hi ddydd Iau yn mynwent Lianiestyn. Bydd yr angladd yn un cyhoeddus. Cychwynir oddiwrth yr hen gartref yn New Street am 11 o'r gloch y boreu.

Cydymdeimlwn yn ddwys a'i phriod ac a'i hunig ferch yn eu profedigaeth chwerw.

Yr Udgorn 12/06/1918


Y DDIWEDDAR MRS ANN DAVIES, ASH COTTAGE.

Bu farw y chwaer uchod yn frawychus o sydyn prydnawn Gwener, Mehefin 8fed, yn ei phreswylfod yn Burry Port, De Cymru. Byr iawn fu ei hymdaith yn y De. Bu hi a'i phriod yn byw am ychydig wythnosau yn Llanelli. Oddiyno, yn eu hymchwil am waith, symudasant i Kidwelly. Ryw chwe' mis yn ôl ymsefydlasant yn Burry Port. Ymaelodasant yn Jerusalem, ac ni bu erioed neb mor ffyddlon i'r achos goreu ymhob gwedd arno.

Aethant yn ddwfn iawn i serch yr eglwys a'r ardalwyr. Prawf o hyny oedd y dorf anferth ddaeth ynghyd boreu Mercher diweddaf i hebrwng ei gweddillion marwol i'r orsaf. Yr oedd holl drefniadau'r claddu yn llaw ei gweinidog, y Parch. Evan Jones, B. A.

Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth yn y tŷ cyn cychwyn gan y Parchn. E J. Herbert (M.C.) ac R. Jones (B.), Kidwelly. Boreu dydd Iau am 11 o'r gloch gwasanaethwyd yn Ash Cottage gan y Parch. J. Rhydderch, PenIan, a'i gweinidog. Yna ffurfiwyd yn orymdaith hardd, a symudwyd yn araf ac urddasol i gyfeiriad Llaniestyn. Aethpwyd a'r corff i'r capel, lle y cynhaliwyd gwasanaeth coffa. Darllenwyd rhanau o'r Gair gan y Parch. Glyn Davies, gweinidog y lle. Arweiniwyd ni at yr Orsedd gan y Parch. D. Foulkes Roberts, Rhydbach, a thraddodwyd y bregeth angladdol gan y Parch. Evan Jones, B.A.

Cymerwyd rhan ar lan y bedd gan ei gweinidog, y Parchn. J. Rhydderch a Glyn Davies. Chwareuwyd y Dead March yn y capel gan Miss Murray, Salem, Pwllheli. Derbyniwyd lliaws o bleth-dorchau. Treth ar ofod fyddai nodi'r oll. Yr oedd yno Glass Wreath oddiwrth Ysgol Sul Jerusalem, Burry Port, a pleth-dorch oddiwrth ei dosbarth yn Jerusalem ac yn Mhenlan.

Yr Arglwydd fyddo'n nodded i'r priod a'r ferch yn eu profedigaeth lem.

"Gadewais dy lytrau ar ol, 'does arnat mo'u heisiau,
Mae'r nef yn rhy oleu i lyfrau roi dim."

Yr Udgorn 19/06/1918