WEDI EI CLWYFO.
Drwg genym glywed fod Private David Roberts (mab Mr. Thomas Roberts, plastrwr, New Street), wedi ei glwyfo yn Ffrainc.Derbyniwyd gair oddiwrtho yr wythnos ddiweddaf ei fod wedi dod drosodd i'r ysbytty yn Lloegr. Gobeithiwn y ca adferiad buan.
Yr Udgorn 30/08/1916
UN ARALL WEDI EI GLWYFO.
Drwg genym ddeall fod un arall o fedhgyn diymhongar y dref, sef Private David Roberts, mab Mr a Mrs Thomas Roberts, New Street, wedi ei glwyfo yn ei fraich dde yn Ffrainc.Deuwyd ag ef drosodd i ysbyty yn Rhydychen. ac ofnir am adferiad ei fraich. Perthynai i'r 10th Battalion R. W. F., a gwasanaethai yn Manceinion cyn toriad y rhyfel.
Y mae Private Roberts yn ddyn ifanc tawel a diymffrost, a chydymdeimlir ag ef yn fawr gan luaws cyfeillion tyner galon iddo, ac eiddunant y goreu iddo.
Yr Udgorn 15/11/1916
DYCHWELIAD MILWR CLWYFEDIG.
Neithiwr (nos Lun) dychwelodd Private David Roberts, mab Mr. a Mrs. Thomas Roberts, New Street, gartref o un o ysbytai yn Lloegr, lle y bu am fisoedd yn cael triniaeth briodol i'w glwyfau.Cafodd ei glwyfo yn drwm yn un o'r brwydrau ffyrnicaf ar dir Ffrainc, ac ofnid y byddai yn ofynol iddo fyned dan weithred lawfeddygol gan mor ddifrifol oedd ei glwyfau.
Llawenydd nid bychan i'w deulu a'i gydnabod yw y wedd obeithiol sydd arno, ac arwyddion amlwg gwellhad buan.