DIHANGFA WYRTHIOL.

Ymysg dwylaw yr agerlong anffodus "Holly Branch," yr hon a suddwyd gan fad tanforol y gelyn, yr oedd dau o'i chriw yn perthyn i'r dref, sef Mri Robert Jones, North Street, ac Edwin Roberts, mab Mr a Mrs Robert Roberts, New Street.

Cawsant ddihangfa gyfyng rhag dyfrllyd fedd.

Yr Udgorn 10/01/1917


YN GARCHARORION.

Daeth hysbysrwydd yr wythnos o'r blaen fod Mr Hughie Evans, mab Mr a Mrs Hugh Evans, Ala Cottage, a Mr Edwin Roberts, mab Mr a Mrs Robert Roberts, New Street, wedi eu cymeryd yn garcharorion rhyfel.

Bu i'r llong yr oeddynt yn gwasanaethu fel morwyr arni gael ei suddo gan y gelyn ers tua saith wythnos yn ôl, a bu eu teuluoedd mewn pryder dwfn am amryw wythnosau, ac heb glywed dim oddiwrthynt.

Yr Herald Gymraeg 15/05/1917


ADREF O DIR Y GELYN.

Yr wythnos ddiweddaf daeth Mri. Hughie Evans, mab Mr a Mrs Hugh Evans. Ala Cottage, a Edwin Roberts, mab Mr a Mrs Robert Roberts, New Street, adref ar ôl bod yn garcharorion yn yr Almaen am rai blynyddau. Morwyr oeddynt hwy, a chymerwyd hwy yn garcharorion gan y rhyfel-long, "Moewe" eiddo'r gelyn, yr hon fu'n gwneyd y fath ddifrod ar ein llongau ar un adeg.

Er eu bod wedi gweled amseroedd enbyd a dioddef caledi mawr edrychent yn bur dda drwy'r cwbl.

Hefyd, daeth Mr. J. R. Williams, mab Mr a Mrs John Williams. Brigydon. South Beach, adref ar ôl bod am ddwy flynedd a hanner yn garcharor yn nhir y gelyn.

Yr Herald Gymraeg 24/12/1918