MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.
Dydd Mawrth diweddaf, wedi cystudd maith, bu farw Miss Jane Ann Jones, Trigfa, Ala Road (merch hynaf y diweddar Mr. a Mrs. Griffith Jones, gynt o Bee Hive), yn 49ain mlwydd oed,Yr oedd yn gymeriad tawel a dirwgnach, ac yn aelod ffyddlon yn eglwys Salem hyd y gallodd.
Cymerodd yr angladd (preifat) le dydd Sadwrn yn mynwent Denio, o dan y drefn newydd. Gwasanaethwyd gan y Parch. John Hughes, B.A., B. D.
Cydymdeimlir a'i brodyr a' i chwiorydd yn eu profedigaeth.