LLYS YNADOL PWLLHELI.

YNGHYLCH BEISICL.

Cyhuddid Richard Henry Jones, Pwllheli, o fod wedi lladrata beisicl, eiddo Mr O. Ellis Jones, gohebydd.
Ar ran yr erlyniad dywedwyd i Mr Jones, perchen y beisicl, yn ddiweddar newid tŷ, ac iddo adael y beisicl yn y tŷ gwag yn New Street.
Un diwrnod canfu fod ffenestr y seler wedi ei thori a'r drws yn agored. Yr oedd y beisicl hefyd wedi mynd oddiyno. Caed y beisicl yn meddiant y cyhuddedig gan yr heddgeidwaid.
Amddiffynid y bachgen gan Mr Cradog Davies, yr hwn a ddywedodd mai cael y beisicl wnaeth y cyhuddedig ar domen yn nghefn y tŷ.
Yr oedd plant wedi bod yn chware gydag ef am ddyddiau cyn i'r bachgen gael gafael arno, a gadawsant ef ar y domen ar ol gorffen chware ag ef, a dyma lle y gwelodd y cyhuddedig ef.
Gofynai Mr Davies i'r Fainc ymddwyn yn dyner tuag at y bachgen, yn arbenig gan ei fod wedi ymuno a'r fyddin. Taflodd y Fainc yr achos allan ond rhoesant gerydd llym i'r diffynydd.  

Yr Udgorn 28/05/1913