MARW A CHLADDU.
Gyda gofid y cofnodwn hanes marw a chladdu y ferch ifangc rinweddol Miss Laura Evans (merch ieuengaf y ddiweddar Mrs Ellin Evans), 1, Penmount Square, yr hyn a gymerodd le foreu Iau diweddaf ar ôl cystudd maith a blin.Yr oedd yn meddu ar gymeriad llednais a thawel, a'i hymarweddiad bob amser yn weddaidd. Bu'n aelod ffyddlon am 21 mlynedd o Gymdeithas Gyfeillgar y Merched, ac am 23 mlynedd yn Wasanaethyddes dda i Mrs Jones, Lleyn Street (yr hon a fu'n garedig wrthi hyd y diwedd).
Dydd Sadwrn diweddaf claddwyd yr hyn oedd farwol o honi yn mynwent Abererch (angladd anghyhoedd). Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parch. J. Puleston Jones, M.A., Penmount, ac yn yr Eglwys a'r fynwent gan y Parch. D. Jones (Efrog), y Ficer. Rhoes Mrs Nun Davies, Lampeter, flodeuglwm hardd.
Yr undertaker ydoedd Mr Morris Williams, Emporium. Cydymdeimlwn a'r teulu a'r perthynasau yn nghanol eu poen a'u tristwch.