MARW MEISTR Y TLOTY.

Nos Wener, ar ôl hir nychdod, bu farw Mr. John R. Jones, Meistr y Tloty, ac efe ond 44ain mlwydd oed.

Dechreuodd Mr. Jones ei yrfa fel chwarelwr yn Corris, a bu ef a Mrs. Jones yn gofalu am dloty Dolgellau cyn eu penodiad i gymeryd gofal o dloty Pwllheli chwe' blynedd yn ôl.

Cymerodd yr angladd le ddydd Llun (ddoe) yn Harlech (anghyhoedd). Gwasanaethwyd yn y tloty cyn cychwyn gan y Parch. J. Edwards, B.A., y ficer, ac wrth y bedd yn Harlech gan y Parchn. Thomas Williams ac R. Evans, Harlech. Yr undertaker ydoedd Mr. Evan Jones, Caerhydderch.

Cydymdeimlir â Mrs. Jones a't tri plentyn yn eu profedigaeth.

Yr Udgorn 19/07/1916

BWRDD UNDEB PWLLHELI.

Cynhaliwyd dydd Mercher, Mr J. T. Jones yn y gadair.

MARWOLAETH Y MEISTR.

Ar gynygiad y Cadeirydd, pasiwyd penderfyniad yn cydymdeimlo â Mrs Jones, y feistres, yn ei phrofedigaeth o golli ei phriod (sef Mr J. R. Jones, Meistr). Dywedodd y Cadeirydd fod Mr Jones wedi bod yn swyddog gofalus a defnyddiol ac yr oeddynt oll yn gofidio ei golli.

Cyflwynodd Mr Hugh Pritchard (clerc) adroddiad Pwyllgor y Ty ynglyn a'r mater. Teimlai y pwyllgor nas gallent anog y Bwrdd i wneyd penodiad parhaol gan fod Bwrdd y Llywodraeth Leol yn gwahardd i wneyd penodiadau parhaol tra y pery'r rhyfel. Yr oedd penodiad Mrs Jones fel meistres yn aros hyd diwedd Rhagfyr, ac yr oedd Mrs Jones yn awyddus am aros yn y swydd am ysbaid. Anogai y pwyllgor hwy i ofyn i Mrs Jones i aros yn y swydd am gyfnod amhenodol, ac i ofyn i Mr W. Morris Jones, swyddog elusenol, Nefyn, i gymeryd y swydd o feistr dros dro. Gadewid i Mr Jones i wneyd y trefniant a fynai ef i wneyd y gwaith yn nosbarth Nefyn.

Gofynodd Mr John Williams ai ni allai Mr Jones grflawni'r ddwy. Bu Mr Henry Jones, cyn-feistr yn gwneyd hyny am ysbaid.

Eglurodd y Cadeirydd fod cyfrifoldeb gwaith y swyddog elusenol yn Nefyn yn aros ar Mr Jones yr un modd.

Yn ateb i'r Cadeirydd dywedodd Mr Jones ei fod ef yn foddlon ymgymeryd a'r gwaith am ysbaid os oedd yn rhyw hwylusdod i'r Bwrdd.

Cynygiodd Mr Griffith Richards, a chefnogodd Mr John Pierce i gadarnhau trefniant y pwyllgor.

Sylwodd Mr Richard Jones, Nefyn, fod Mr Jones yn gyfarwydd iawn a'r llyfrau. Pasiwyd yn unfrydol.

Yr Herald Gymraeg 25/07/1916