MARW RHEITHOR EDEYRN.

Dydd Sadwrn, ar ôl hir waeledd, bu farw Parch John Morgan, yr hwn fu yn rheithor yn Edeyrn am gyfnod o 37 mlynedd, yn ei 75 mlwydd oed.

Bu yn gweinidogaethu am dros haner canrif mewn gwahanol bentrefi yng Ngogledd Cymru.

Cydymdeimlir a'i fab, y Parch H. J. Morgan, M.A., Ficer Beaumaris, a'i ferch, Mrs Davies, priod y Parch D. T. Davies M.A, Llwyngwril.

Herald Gymraeg 05/01/1915