MARW UN O'R CEWRI.
Dydd Iau, Medi 11eg, bu farw Mr. Henry Jones, Edeyrn. Un o hen drigolion y fro oedd Mr. Henry Jones. Crydd ydoedd o ran galwedigaeth, a chariai ef a'r mab, Mr. William Jones, fasnach helaeth a llwyddiannus ymlaen mewn esgidiau, etc.Yr oedd Mr. Jones yn ddyn cryf o feddwl a chymeriad, ac adwaenid ef yn ei ardal fel un o ragorolion y ddaear. Gwnaeth enw iddo ei hun am ei gywirdeb a'i onestrwydd, ac enwogodd ei hun fel dyn a Christion. Meddai ar ddynoliaeth oedd gyfoethog a charedig. Dywedir ei fod yn un o'r rhai oedd yn aros oedd wedi teimlo cyffyrddiadau ysbrydol Diwygiad '59, a chlywid oslef y diwygiad hwnnw yn ei weddiau diweddaf.
Dewiswyd ef yn flaenor gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Edeyrn 40 mlynedd yn ôl, a llanwodd y swydd o flaenor gwerthfawr i'w hymylon. Blaenorai ymhob peth da.
Yn ddiweddar, oherwydd ystad ei iechyd, analluogwyd cryn lawer arno i ddilyn cyfarfodydd ei ewyllys fel y dymunai, ond ni lwyddodd ei afiechyd i darfu dim ar ei ysbryd rhagorol na'i frwdfrydedd i gyfeiriad y gwaith da a'r achos.
Y mae traddodiadau y tad yn cael eu cario ymlaen yn y plant, ac y mae un ohonynt, Mr. William Jones, wedi ei ddewis yn gyd-arweinydd i'r canu cynhulleidfaol yn yr eglwvs, lle yr oedd ei dad yn flaenor.
Cymerodd yr angladd le ddydd Llun, Medi 15, ac ym mhresenoldeb tyrfa o hen gyfoedion ac ardalwyr rhoddwyd ei weddillion marwol i orffwys yn Mynwent M.C. Edeyrn. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parch. John Hughes (gweinidog), Mr. T. J. Williams, Mr. John Williams, a'r Parch. G. P. Hughes, Morfa Nefyn.
Gadawyd priod, merch a dau fab i alaru eu profedigaeth o golli tad. Cydymdeimlir yn fawr a hwy.