Y LLYSOEDD APEL - LLEYN.

Cynhaliwyd ddydd Sadwrn, Mr Maurice Jones yn y gadair.

ACHOS YSGOLFEISTR.

Gwrthwynebid esgusodiad amodol i Robert Ifor Jones, ysgolfeistr Edeyrn. Ysgrifennodd y Parch Arfon Jones, Ficer Edeyrn, ar ran rheolwyr yr ysgol, i gefnogi y cais.

Yr oedd pedwar o'i frodyr yn y fyddin. ac un wedi colli ei iechyd er ymgyrch y Dardanelles ac ef a oedd yn cadw eu cartref yn agored yn Llanberis. Yr oedd ef yn gorfod cadw ei frawd a gollodd ei iechyd yn Gallipoli.

Gohiriwyd er iddo fyned dan archwiliad meddygol.

Yr Herald Gymraeg 27/03/1917