MARW GWR ADNABYDDUS.

Y mae genym yr wythnos hon y gorchwyl prudd o gofnodi marwolaeth gwr oedd yn adnabyddus iawn i gylch eang o drigolion Lleyn. Cyfeirio yr ydym at yr anwyl a'r hoff Capt David Hughes, Shop Groesffordd, yr hyn a gymerodd le ddydd Sul yn Lerpwl, ac efe yn 69 mlwydd oed.

Tua thair wythnos yn ôl aeth i Lerpwl, ac yno aeth dan weithred lawfeddygol, a meddylid ar y dechreu y deuai trwy yr oruchwyliaeth yn llwyddianus, ond gwaethygodd er gofid dirfawr i'w deulu.

Yr oedd y diweddar Capt. Hughes yn un o'r cymeriadau mwyaf diddan i fod yn ei gwmni, yn llawn o natur dda, a'i wen a'i ddywediadau pert bob amser yn llawn o iechyd i gymdeithas.

Cydymdeimlir yn ddwfn a'r teulu yn eu profedigaeth chwerw.

Yr Udgorn 08/11/1916


MARWOLAETH CAPTEN DAVID HUGHES.

Gofidus iawn genym gofnodi marwolaeth un o gymeriadau mwyaf adnabyddus a phoblogaidd yr ardal, sef Capten David Hughes. Shop Groesffordd. Yr oedd yn cadw Tŷ Capel, Edeyrn, ers 32 mlynedd, ac felly yn adnabyddus iawn i bregethwyr y wlad.

Bu farw mewn nursing home yn Lerpwl y Sul cyn y diweddaf yn ei 59 mlwydd oed. Cafodd brofiad mawr o fywyd ar y mor ac ar y tir. Bu yn hwylio'r cefnfor am ran helaeth o'i oes, ac yna bu'n cario yn mlaen fusnes ym Mhwllheli ac Edeyrn.

Ni bu erioed gymeriad mwy dyddorol nag ef i fod yn ei gwmni a bydd bwlch mawr ar ei ôl yn Edeyrn. Bu ar un adeg yn cynrychioli'r plwyf ar Fwrdd Undeb Pwllheli a Chyngor Gwledig Lleyn.

Cydymdeimlir yn fawr a'i fam oedranus a'i chwaer.

Yr Udgorn 14/11/1916