Ynadlys Pwllheli.
Dydd Mercher, Mehefin 16eg. Gerbron J. G. Jones, Ysw. (yn y gadair) Henaduriaid Maurice Jones, a G. Hughes; Roberts W. Thomas, Ysw.; C. H. Lloyd, Ysw; W. W. Griffith, Ysw., a J. Hughes Parry, Ysw.CADW CI HEB DRWYDDED.
Gwysiwyd Robert Roberts, Ty'nlon, Edeyrn, am gadw ci heb drwydded.Yr oedd gan y diffynydd hawl i dystysgrif rhyddhad pe bae wedi gwneud cais am hyny mewn pryd.
Dywedodd yr Arolygydd Owen fod y diffynydd wedi codi trwydded er hyny, a thaflwyd yr achos allan.