DYCHWELYD.
Dydd Iau, aeth Mr. R. O. Hughes, sef mab i'r Parch. John Hughes, Wenallt, yn ôl i Canada. Yno yr oedd pan dorrodd y rhyfel allan, a daeth drosodd i wasanaethu ei wlad.
Dymunwn iddo fordaith a gyrfa lwyddiannus yn y wlad bell.
Yr Herald Gymraeg 04/11/1919