Ynadon Pwllheli.
Ddydd Mercher, Mehefin 18fed.O flaen yr Henadur Maurice Jones (yn y gadair) yr Henadur W. Anthony, Dr O. Wynne Griffith, Dr Gwenogvryn Evans, yr Henadur G. Hughes Roberts, I W. Thomas, Ysw., a J. Hughes Parry, Ysw.
Cerbyd heb Drwydded.
Dygwyd Thomas Williams, Bryngwydd, Edeyrn gerbron ar y cyhuddiad o gadw cerbyd heb drwydded.Dywedodd swyddog y tollau y gwysiwyd y diffynydd am drosedd cyffelyb y flwyddyn ddiweddaf, ond gollyngwyd ef yn rhydd ar daliad y costau ar yr amod y byddai iddo godi trwydded yn uniongyrchol, ond wnaeth y diffynydd mo hyny. Gwrthododd yn bendant a chodi trwydded er i'r swyddog ysgrifenu ato.
Tystiwyd gan heddwas iddo fynd i weld y diffynydd ar yr ail o Fehefin, ac iddo hysbysu y pryd hwnw ei fod wedi codi trwydded beth amser cyn hyny, ond caed allan fod y drwydded oedd gan y diffynydd wedi ei chodi ar yr 2il o Fehefin. Gwelodd y tyst y diffynydd drachefn a gofynodd iddo paham yr oedd wedi dweyd anwiredd wrtho. Yr oedd y diffynydd yn dafod ddrwg iawn wrth ei ateb, a galwodd ef yn "scamp".
Gwadai y diffynydd iddo alw'r heddwas yn "scamp" a dywedodd iddo beidio codi trwydded y flwyddyn ddiweddaf oherwydd iddo werthu ei geffyl yn fuan ar ôl iddo gael ei wysio, a bu heb yr un ceffyl, meddai, am naw mis. Ar yr ail o Fehefin y defnyddiodd y ceffyl gyntaf i gario teithwyr.
Dirwywyd y diffynydd i 2p. ac 8s. 6c. o gostau.