EDERN. MARWOLAETH.
Hebryngwyd i briddellau y dyffryn heddyw (sef dydd Llun) yr hyn oedd farwol o Mrs. Davies, Gorphwysfa.Cafodd gystudd maith, ond dioddefodd ei gwaeledd yn dawel. Eglwyswraig o'r iawn ryw ydoedd Mrs. Davies, a diameu ei bod wedi myned at ei gwobr.
Gedy fab a ŵyr i alaru ar ei hol; ond mae Tad yr amddifad a Barnwr y gweddwon eto yn fyw, ac ni raid iddynt ond ymddiried ynddo Ef na chant eu cynal â nerth yn ol y dydd.
Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch. J. Bangor Jones. Ceir gwasanaethau angladdol yn yr Eglwys y Sul nesaf.