PRIODAS NAI I FRENIN ENLLI.

Ym Mhwllheli, dydd Gwener, Mai 23ain, priodwyd Mr. Love Pritchard, nai i Frenin Enlli, gyda Miss Jones, Ty Bach, Enlli. Mr J. Jones, Isallt, Aberdaron, ydoedd y gwas, a Miss Jones, Isallt, yn forwyn y briodas.

Yr oedd tad y priodfab yn bresennol, ac yr oedd yr arlwy o amrywiol ddanteithion wedi eu parotoi gan Mrs. Jones, Castle Hotel, ac wedi'r arlwy aeth y par ieuanc a'u cwmni ymaith ym modur gerbyd Mr. Russell, Motor Garage.

Yr Herald Gymraeg 27/05/1919