PEIDIO AG YMUNO A'R FYDDIN.

DIRWYO BACHGEN O LANAELHAIARN.

Mewn heddlys arbenig ym Mhwllheli, gerbron Mri J.E. Greaves a G. Hughes Roberts, cyhuddwyd William John Thomas. Plas Newydd, Llanaelhaiarn. mab fferm fechan, o beidio myned i Fangor i ymuno a'r Fyddin fel yr archwyd iddo ar Mai 6ed. Eglurodd yr Arolygydd Owen a Lieut. Chapman, o Fangor fod y dyn wedi ei alw i'r Fyddin Ebrill 26ain. Y pryd hwnw anfonodd eglurhad tywyllodrus ar ei waith yn peidio ag ymuno.

Pan alwyd ef i fyny ar Mai 6ed bu iddo anfon y papurau yn ol heb eglurhad o gwbl.

Tystiodd yr Heddwas Evans ei fod ef wedi methu a chael rheswm o gwbI gan y diffynyd dros ei waith yn peidio ag ateb i'r alwad, a bu iddo ei gymeryd i'r ddalfa y dydd blaenorol.

Bu i'r diffynydd apelio i'r llys lleol ac i'r llys apel sirol am esgusodiad, ond gwrthodwyd ef.

Dywedodd y Fainc fod y diffynydd wedi actio yn stupid iawn, ac yr oeddynt yn ei ddirwyo i 5p a'i drosglwyddo i'r awdurdodau milwrol.

Dyma y trydydd achos o'r fath yn Lleyn.

Yr Herald Gymraeg 16/05/1916


LLANAELHAIARN - WEDI MYND I'R FYDDIN.

Ddechreu yr wythnos ddiweddaf aeth Wm. John Thomas, Planwydd Mawr, i'r Fyddin.

Yr wythnos flaenorol aeth Ritchie Evans, mab ieueengaf Mr Evans, yr heddgeidwad. i ddysgu trin y cledd.

Ofnir y collir rhagor o'n dynion ieuainc eto cyn diwedd y mis hwn.

Yr Herald Gymraeg 16/05/1916