MARW MEWN OEDRAN TEG.

Prydnawn Sul, Mehefin 28ain, bu farw y chwaer ragorol Mrs. Catherine Jones, Tyn-y-foel, yn yr oedran teg o 78 mlwydd oed.

Yr oedd yn aelod yn eglwys y Babell, M.C., ac yr oedd gan bawb air da iddi fel cymydoges garedig. Claddwyd ei gweddillion marwol brydnawn Mercher. Gwasanaethwyd gan y Parchn. W. J. Jones, Babell, ei gweinidog, a J. Phillips, Saron.

Cafodd gladdedigaeth barchus.

Herald Gymraeg 14/07/1914