MARW'N IFANC.

Cydymdeimlir yn fawr a Mr a Mrs Hughes, Brynarlais (Penllechog), yn eu profedigaeth ddwys o golli mor sydyn Rowland Pritchard, plentyn bychan pum mlwydd oed.

Rhoed ei weddillion marwol i orffwys yn mynwent y teulu ddydd Mawrth diweddaf, pryd gwasanaethai y Parch. J. Phillips, Seion.

Yr Udgorn 25/02/1914