LLANAELHAIARN MARW.
Yr wythnos ddiweddaf, caed prawf grymus o werth bywyd ar ei oreu pan glywyd am golli Mrs. Jones, priod Mr. William Jones, Tyddyn Mawr, Llanaelhaiarn—y "perl teg" hwnnw, mewn modd sydyn, a hi yn wraig gref 59 mlwydd oed. Rhoed y bersonoliaeth hardd honno yn naear Capel Helyg ddydd Mercher.Hawdd y treigla deigryn cydymdeimlad goror a'r tad a'i blant, pan droes haf gwyn yn aeaf du iddynt. Merch Mochras, gwlad Llyn ydoedd Mrs. Jones. Meddai ar bersonoliaeth rymus o ran oorff, meddwl, ysbryd, a chymeriad. Ar ei haelwvd hi oedd frenhines mewn cymdeithas, hi oedd seren siriol, lan galon. Ac ym myd crefydd a moes ei rhodiad oedd deilwng o'r "Oen Difai."
Fe'i cofiaf rhyw ganolddydd gwyn,
Yr olaf dro y gwelais hi;
O iechyd llonder, y pryd hyn,
Degeiddied darlun oedd i mi.
Heb drwst na rhodres yn y man
Eisteddwn ger ei bord ddi-brin;
Ac yno yr ymdeithydd gwan
Fendigodd rhyw garedig rin.
Nid marw hi, yr hawddgar fron
Yr orlon wen, tra byw y da;
Mewn cariad fyth. hi wen yn llon;
Ei harddwch bery wedi ha'.
Y ohwerthin tirion eto bair,
Y siarad rhydd, diabsen gynt;
Y bywyd fydd fel bywyd Mair
Yn fyth anwylach ar ei hynt.
Fe aeth i ffwrdd yn ebrwydd, do;
Bu byw mor dlws; a pharod iawn
Oedd hi i fynd i'r heulog fro
Lle nad oes nos yn dilyn nawn.
Ond hebddi, er yr atgof drud,
Rhyw ddistaw ddeigr a hiraeth ddaw
Yng ngwagter aelwyd, gwagter byd,
Oddiyma hyd Fryn Engan draw.
Os aeth i'n golwg ni, y gun,
O le ac amser, aeth i ddod
Mewn goleu gwell ar fyw; ei hun
Hi erys megis nefol nod.
CYBI.