CLADDEDIGAETH.
Brydnawn Sadwrn claddwyd gweddillion marwol Mrs Laura Morris, gynt, o Bwll March. Yr oedd yn 84 mlwydd oed.Cafodd gynhebrwng parchus iawn. Gwelsom yn mhlith y dyrfa y Parchn Williams (A.), Sardis; Jones (M.p.), Cwm-Coryn, ei gweinidog; Phillips Saron, Llanaelhaiarn; Davies, offeiriad Llanarmon a Jones, offeiriad Llanaelhaiarn; Dr. Rowlands, Llanaelhaiarn. ei meddyg; Mr R. Owen Roberts, Cwmcoryn, ein haelod ar y Cyngor Sir.
Yr oedd ein diweddar chwaer, Laura Morris, yn un oedd wedi rhoddi llawer iawn o'i hamser gyda pethau'r byd ysbrydol. Heddwch i'w llwch hyd foreu caniad yr udgorn.
Yr Arglwvdd fyddo yn amlwg gyda'r teulu a'r perthynasau oll yn eu galar.