MARW YN IEUANC.

Foreu Gwener, Medi 22ain, bu farw Ann Ellen Jones, Cwm-coryn, gynt o Bryngadfa Bach, yn un-ar-ddeg mlwydd oed ar ôl ychydig ddyddiau o gystudd caled. Ni fu yn eneth gref ar y goreu.

Geneth dawel, ddistaw oedd Ann Ellen bob amser.

Claddwyd ei gweddillion marwol brydnawn Mercher. Gwasanaethwyd ar yr achlysur pruddaidd gan y Parchn W. Lewys Jones, Cwmcoryn a Thos. Jones, Rheithor.

Yr oedd y gwasanaeth yn hynod o dyner ac effeithiol. Canodd plant yr ysgol ddyddiol amryw weithiau yn hynod o effeithiol o dan arweiniad y prifathro, Mr John Roberts.

Yr Herald Gymraeg 03/10/1916