MARWOLAETH.

Yn hynod sydyn, foneu Sul, Ebrill 5ed, bu farw Mrs Ellen Evans, priod Mr Thomas Evans, Eifl Road, yn 34ain mlwydd oed.

Merch ydoedd yr ymadawedig i Mr a Mrs William Williams, Sea View, y rhai sydd yn aros i alaru ar ei hol, ynghyda thri o blant bach ar hanner eu magu, pedwar o frodyr, a dwy chwaer, ynghyd a'i phriod tyner. Claddwyd ei gweddillion yn mynwent Llanaelhaiarn.

Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan Mr Ellis Roberts, ac wrth y bedd gan y Rheithor Jones.

Cydymdeimlwn a'r teulu oll yn eu galar.

Y Genedl Gymreig 14/04/1914