TREFOR MARWOLAETH.
Drwg genym orfod cofnodi marwolaeth yr hen chwaer Mrs. Grace Jones, gweddw i Mr. Jeremiah Jones. Eiifl Road, yr hon a hunodd ddydd Sul, 18fed wedi cyrhaedd 82 mlwydd oed.Yr oedd yr hen chwaer uchod wedi byw am y rhan fwyaf o'i hoes yn yr ardal hon, ganwyd a magwyd hi mewn tyddyn o'r enw Llwvn y brig uchaf, ar lechwedd yr Eifl, a dyddorol yw meddwl ei bod wedi cael treulio ei dyddiau hirfaith i ben wrth ei odrau.
Gadawai'r ymadawedig ddau fab a merch i alaru ar ei hol. Cleddir ei gweddiilion yn mynwent Eglwys Plwyf Llanaelhaiarn ddydd lau, 22ain. Cydymdeimlir a'r teulu yn eu profedigaeth.