MARW.
Unwaith yn rhagor wele angeu wedi dyfod yn ei rwysg i fylchu yr ardal hon, trwy fyned a thad tirion o'n plith.Y gŵr ydoedd Mr George Baum, cafodd ef ollyngdod ar ôl cystydd blin a maith, nawn Mawrth, 19eg, ac efe yn yr oedran cynar o 34ain mlwydd oed, ac yn dad i dri o blant bach ar ganol eu magu.
Yr oedd yn un ac awen cerddoriaeth ynddo ac aml y bu yn arwain partis mewn cystadleuaethau, a'i briod ef ydyw yr enwog Llinos yr Eifl, yr hon sydd wedi ei gadael gyda'i rhai bach i alaru ar ei ôl.
Claddwyd yn mynwent Llanaelhiaiarn, dydd Sadwrn 23ain.