MARWOLAETH SYDYN CHWAER BARCHUS.

Boreu Mawrth, y 1af o'r mis hwn, bu farw Mrs. Davies, anwyl briod Mr. Robert Davies, Elernion, yn sydyn iawn, yn 53 mlwydd oed. Nid oedd yn mwynhau iechyd da er's misoedd, ond eto nid oedd neb yn meddwl fod y diwedd mor agos - teimlai yn galonog iawn dydd Llun - bwriadai yn gryf fyned i'r cyfarfod gweddi nos Lun, a buasai wedi myned ond fel yr oedd yr hin yn anarferol o oer, ond yn mhell cyn i'r wawr dori boreu Mawrth yr oedd ei hysbryd pur wedi hedeg at Dduw yr hwn a'i rhoes.

Yr oedd yn aelod selog a hardd yn Babell (M.C.) er yn ieuanc, a pharhaodd hyd y diwedd. Byddai yr achos yn y Babell yn agos iawn at ei chalon bob amser. Yr oedd yn hynod siriol bob amser, ac yn garedig iawn - " Gair da iddi gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun."

Prydnawn dydd Gwener ymgasglodd torf yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i'w gweddillion marwol. Er fod gwyneb y ddaear wedi ei gorchuddio ag eira, ac yn ddyfal fwrw eira ar hyd y prydnawn, yr oedd ei chynhebrwng yn hynod o luosog, yr hyn brawf ei bod yn barchus gan yr ardalwyr. Claddwyd ei marwol ran yn mynwent Eglwys y plwyf. Gwasanaethwyd gan y Parchn. J, Phillips (B.), Saron, W. L. Jones (M.C.), Babell, a T. Jones, Rheithor y plwyf.

Gadawodd briod anwyl, chwaer hoff, yn nghyd a lluaws mawr o berthynasau agos, mewn hiraeth a galar dwys ar ei hôl. Bydd ei lle yn wag iawn yn Elernion, yr eglwys, ac yn yr ardal. Dymunwn i'r teulu oll bob nerth yn awr chwerw y brofediaeth.
TYDVIL.

Yr Udgorn 14/03/1917