MARW HYNAFGWR.
Fore Llun, tra yn myned at ei waith, syrthiodd Mr. John Parry, Bryn Neuadd, yn farw ar ochr y ffordd. Yr oedd yr ymadawedig yn 79 mlwydd oed, ac efe mae'n debyg oedd y gweithiwr hynaf yn y cylch.Bu am flynyddau maith yn drysorydd y gangen leol or Odyddion, a swyddog rhagorol a fu ymhob ystyr. Edrychai bob amser ar ôl yr arian fel pe byddent yn eiddo personol iddo ef ei hun.
Daeth tyrfa fawr i dalu y gymwynas olaf iddo ddydd Iau, a hebryngwyd ei weddillion i fynwent Eglwys y Plwyf a'r Parch. Caleb Williams, M.C., Bwlan, ei hen weinidog, yn gwasanaethu yn y tŷ ac ar lan y bedd.