MARWOLAETH CHWAER BARCHUS.
Gyda gofid y cofnodwn farwolaeth y chwaer hoff a charedig Mrs. Mary Jones, Bwlcyn, plwyf Llanaelhaiarn, yr hyn a gymerodd le foreu Mawrth, Chwefror 9fed, yn 74 mlwydd oed.Bedyddiwyd hi pan yn ieuanc yn afon Tyndrain, gan y diweddar John Jones, Llanberis (Yr Hen Gloddiwr) ac ymaelododd yn Saron, Llanhaelhaiarn, a bu yn ffyddlon i'w phroffes, yn addurn i'r achos goreu, ac yn deyrngarol i'w Cheidwad. Yr oedd iddi air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun, ni a gredwn. Teimla yr ardal, yr eglwys, yn Bethania a'r teulu wagder a cholled ar ei hol.
Y dydd Iau dilynol claddwyd yr hyn oedd farwol ym mynwent Eglwys y Plwyf. Gwasanaethwd ar yr achlysur gan y Parchn J. Phillips, Llanaelhaiarn; a Wm. Davies, Trefor. Cafodd gladdedigaeth luosog a pharchus.
Gadawodd bump o blant, deuddeg o wyrion, dau frawd, a dwy chwaer, a lluaws o berthynasau agos i alaru ar ei hol. Mab i'r chwaer ymadawedig yw y Parch W. Trefor Jones - gweinidog parchus a phoblogaidd Bethania, Llanelli. Mae merch iddi yn ysgnfenyddes i'r Gymdeithas Zenanaidd, Adran Cymru, sef Miss Maggie Trefor Jones, yr hon sydd yn cyflawni ei swydd i foddlonrwydd cyffredinol. Wyr iddi yw y brawd ieuanc addawol Mr. Daniel Jones, yr hwn sydd yn fyfyriwr llwyddianus yng Ngholeg y Bedyddwyr yn Bangor. Perthynasau agos iddi oedd y diweddar Barch John Jones (Yr Hen Gloddiwr), a'i fab athrylithgar, y diweddar Barch Evan E. Jones, Rhosybol.
Heddwch i'w llwch.